Amgueddfa'r Prado
Math | oriel gelf, amgueddfa genedlaethol, sefydliad, atyniad twristaidd, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Agoriad swyddogol | 19 Tachwedd 1819 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Adeilad Villanueva, Madrid city |
Sir | Madrid |
Gwlad | Sbaen |
Cyfesurynnau | 40.4139°N 3.6922°W |
Statws treftadaeth | Bien de Interés Cultural |
Sefydlwydwyd gan | Siarl III, brenin Sbaen |
Manylion | |
- Gweler hefyd Prado (gwahaniaethu).
Amgueddfa ac oriel celf ym Madrid, prifddinas Sbaen yw Amgueddfa'r Prado (Sbaeneg: Museo del Prado), y cyfeirir ato gan amlaf fel "y Prado" (El Prado). Mae'n gartref i un o'r casgliadau gorau o gelf Ewropeaidd sy'n cynnwys gweithiau sy'n o'r 12g hyd ddechrau'r 19eg ganrif, wedi'i sylfeini ar y cyn Casgliad Brenhinol Sbaenaidd. Sefydwlyd y Prado fel amgueddfa ar gyfer peintiadau a cherfluniau, ond ceir yno hefyd dros 5,000 llun, 2,000 print, 1,000 o ddarnau arian a medalau, a bron i 2,000 o wrthrychau celf eraill. Ceir dros 700 cerflun. Mae'r casgliad o beintiadau yn cynnwys 7,800 paentiad, ond dim ond tua 900 sydd i'w gweld gan y cyhoedd ar unrhyw un adeg oherwydd prinder lle. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Madrid ac fe'i ystyrir yn gyffredinol fel un o'r amgueddfeydd pwysicaf yn y byd. Cafodd ei sefydlu yn 1819.
Gweithiau celf
[golygu | golygu cod]-
Y Disgyniad, 1435, gan Rogier van der Weyden
-
Hunan-bortread, 1480, gan Albrecht Dürer
-
Crist yn golchi traed y Disgyblion, gan Tintoretto
-
La Inmaculada de Soult, 1678, gan Bartolomé Estéban Murillo
-
Grŵp San Ildefonso, tua 10 CC
-
Pen ceffyl o'r cyfnod Groegaidd cynnar. Cerflun marmor o tua 515 CC.