Amélie Nothomb
Amélie Nothomb | |
---|---|
Ffugenw | Amélie Nothomb |
Ganwyd | Fabienne Claire Nothomb 9 Gorffennaf 1966 Etterbeek |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Hygiene and the Assassin, The Character of Rain, Tokyo Fiancée, The Book of Proper Names, Loving Sabotage, Fear and Trembling, The Life of Hunger, Antichrista, Attentat, Life Form, Sulphuric Acid, Péplum, The Stranger Next Door, The Enemy's Cosmetique, Human Rites, Soif, Q108273219 |
Arddull | nofel, stori fer |
Mudiad | postmodern literature |
Tad | Patrick Nothomb |
Perthnasau | Charles-Ferdinand Nothomb, Jean-Baptiste Nothomb, Paul Nothomb |
Llinach | Nothomb family |
Gwobr/au | Cadlywydd Urdd y Coron, Gwobr René-Fallet, Gwobr Alain-Fournier, Prix littéraire de la vocation, Gwobr Jacques-Chardonne, Prix de Flore, Prif Wobr Jean-Giono, Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig, Gwobr Jean Giono Jury, Roland de Jouvenel Prize, Gwobr Renaudot |
Gwefan | http://www.amelie-nothomb.com |
llofnod | |
Awdures o Wlad Belg yw Amélie Nothomb (sy'n enw-awdur) a anwyd 9 Gorffennaf 1966 ac sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a sgriptiwr. Treuliodd llawer o'i phlentyndod yn Asia.
Ganed Fabienne-Claire Nothomb yn Etterbeek, Japan ar 9 Gorffennaf 1966 i ddiplomat o Wlad Belg. Symudodd pan oedd yn 5 oed ac er hynny mae wedi byw yn: Tsieina, Efrog Newydd, Bangladesh, Myanmar, a gwledydd Prydain.[1][2][3][4]
Mae'n awdures doreithiog iawn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Hygiène de l'assassin (cyf Saesneg: Hygiene and the Assassin), pan oedd yn 26 oed, ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi un nofel y flwyddyn. Mae ei nofelau ymhlith y prif werthiannau llenyddol, ac wedi eu cyfieithu i lawer o ieithoedd; o'r herwydd fe'i anrhydeddwyd gyda gwobr y Brenin Philippe o Wlad Belg. Enillodd ei nofel Stupeur et tremblements 'Wobr Fawr y Nofel' gan yr Academi Ffrengig yn 1999, ac yn 2015, cafodd ei hethol yn aelod o Academi Frenhinol Iaith a Llenyddiaeth Ffrengig Gwlad Belg.
Ymhlith y gwaith pwysig nodedig arall yr ysgrifennodd y mae: Hygiène de l'assassin (1992), Le Sabotage amoureux (1993), Antichrista (2003), Attentat, Acide sulfurique (2005) a Les prénoms épicènes (2018).[5]
Tra yn Japan, mynychodd Nothomb yr ysgol leol gan ddysgu Siapanaeg. Pan oedd hi'n bump oed, symudodd y teulu i Tsieina. Cyfeiriodd yn Stupeur et tremblements mai gadael Japan oedd y “gwahanu gwaethaf posib i mi”. Astudiodd ieitheg yn y Université Libre de Bruxelles. Ar ôl gorffen ei hastudiaethau, dychwelodd Nothomb i Japan i weithio mewn cwmni Japaneaidd yn Tokyo. Mae ei phrofiad o'r amser hwn yn cael ei fynegi yn Stupeur et tremblements.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Frenhinol Gwlad Belg, iaith a llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [6][7][8][9]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cadlywydd Urdd y Coron (2008), Gwobr René-Fallet (1993), Gwobr Alain-Fournier (1993), Prix littéraire de la vocation (1993), Gwobr Jacques-Chardonne (1993), Prix de Flore (2007), Prif Wobr Jean-Giono (2008), Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig (1999), Gwobr Jean Giono Jury (1995), Roland de Jouvenel Prize (1996), Gwobr Renaudot (2021)[10][11][12] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122606987. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122606987. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Amélie Nothomb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Amélie Nothomb". ffeil awdurdod y BnF. Cyrchwyd 20 Medi 2018. https://modernlanguages.sas.ac.uk/research-centres/centre-study-contemporary-womens-writing/languages/french/am%C3%A9lie-nothomb. dyddiad cyrchiad: 21 Mai 2019. https://www.discogs.com/artist/1649645-Am%C3%A9lie-Nothomb. https://www.proquest.com/openview/f5edeb1ac542436e634a99afa37af2c8/1?pq-origsite=gscholar.
- ↑ Man geni: Goodreads. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2018.
- ↑ "Institute of Modern Languages". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-28. Cyrchwyd 2021-02-19.
- ↑ Rhagddodiad anrhydeddus: http://www.ejustice.just.fgov.be/cgi/article_body.pl?numac=2015015097&caller=list&article_lang=F&pub_date=2015-07-17&language=fr.
- ↑ Rhagddodiad anrhydeddus: http://www.ejustice.just.fgov.be/cgi/article_body.pl?numac=2015015097&caller=list&article_lang=F&pub_date=2015-07-17&language=fr.
- ↑ Aelodaeth: http://www.arllfb.be/composition/membres/nothomba.html. dyddiad cyrchiad: 31 Hydref 2015.
- ↑ Anrhydeddau: http://www.ejustice.just.fgov.be/mopdf/2008/07/14_1.pdf. http://www.academie-francaise.fr/amelie-nothomb. dyddiad cyrchiad: 27 Hydref 2017. https://www.franceculture.fr/litterature/mohamed-mbougar-sarr-prix-goncourt-2021-pour-la-plus-secrete-memoire-des-hommes. dyddiad cyrchiad: 3 Tachwedd 2021.
- ↑ http://www.ejustice.just.fgov.be/mopdf/2008/07/14_1.pdf.
- ↑ http://www.academie-francaise.fr/amelie-nothomb. dyddiad cyrchiad: 27 Hydref 2017.
- ↑ https://www.franceculture.fr/litterature/mohamed-mbougar-sarr-prix-goncourt-2021-pour-la-plus-secrete-memoire-des-hommes. dyddiad cyrchiad: 3 Tachwedd 2021.