Alice Munro
Alice Munro | |
---|---|
Ganwyd | Alice Ann Laidlaw 10 Gorffennaf 1931 Wingham |
Bu farw | 13 Mai 2024 Port Hope |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, nofelydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr |
Adnabyddus am | Too Much Happiness, Dear Life, Something I've Been Meaning to Tell You |
Arddull | stori fer |
Prif ddylanwad | John Updike |
Priod | James Munro, Gerald Fremlin |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Lyfrau Trillium, Urdd Ontario, Gwobr Ryngwladol Man Booker, chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Genedlaethol Cylch y Beirniaid Llyfrau, Gwobr Marian Engel, Gwobr Lenyddol WH Smith, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr Rea am y Stori Fer, Gwobr O. Henry, Gwobr Ysgrifennwr y Gymanwlad, Gwobr Molson, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr O. Henry, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Scotiabank Giller, Gwobr Scotiabank Giller, Atwood Gibson Writers' Trust Fiction Prize, Lorne Pierce Medal |
Llenores o Ganada a ysgrifennai straeon byrion yn yr iaith Saesneg oedd Alice Ann Munro (gynt Laidlaw; 10 Gorffennaf 1931 – 13 Mai 2024). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 2013 am iddi "feistroli'r stori fer gyfoes".[1] Adlewyrchir ei phlentyndod yn ei straeon, a leolir gan amlaf mewn trefi bychain yng Nghanada, a phroblemau perthynas a gwrthdaro moesol yw'r themâu cyffredin. Fe'i ystyrir yn un o oreuon llên Canada ac un o'r awduron straeon byrion gwychaf yn llenyddiaeth Saesneg fodern. Cafodd ei chymharu'n aml ag Anton Chekhov.[2][3][4]
Ganwyd Alice Ann Laidlaw yn nhref Wingham, Ontario, yn ferch i ffermwr cadnoaid ac athrawes. Mynychodd Prifysgol Gorllewin Ontario i astudio newyddiaduraeth, a newidiodd ei gradd i Saesneg yn yr ail flwyddyn. Priododd ei chyd-fyfyriwr James Munro ym 1951, a chawsant tair merch, a bu farw un ohonynt ar ddiwrnod ei genedigaeth. Ym 1963, ar ôl byw yn Vancouver am nifer o flynyddoedd, symudant i Victoria, British Columbia, ac agorant siop lyfrau, a chawsant merch arall ym 1966. Yn y 1950au a'r 1960au, cyhoeddodd Alice ei straeon mewn sawl cylchgrawn a chyfnodolyn llenyddol, a darlledwyd nifer ohonynt ar radio'r CBC. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Dance of the Happy Shades, ym 1968.
Chwalodd ei phriodas gyntaf ym 1972, a dychwelodd Alice i Ontario. Am gyfnod bu'n addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol York, Toronto, a chafodd ei phenodi'n llenores breswyl ei hen goleg, Prifysgol Gorllewin Ontario, ym 1974–75. Priododd Gerald Fremlin ym 1976, a symudant i Clinton yn Swydd Huron, ardal ei phlentyndod. Adeg hon, dechreuodd ei pherthynas hir â The New Yorker. Lledaenodd ei henw yn y 1980au, a chyhoeddwyd ei straeon mewn cylchgronau rhyngwladol: Atlantic Monthly, GQ, Granta, a'r Paris Review. Yn y 1990au a'r 2000au ymddangosodd ei gwaith yn y London Review of Books, American Scholar, Harper's, New Statesman, a Virginia Quarterly Review. Rhwng 1968 a 2014, cyhoeddwyd pedair cyfrol ar ddeg o straeon byrion ganddi, a saith casgliad ychwanegol. Enillodd Wobr y Llywodraethwr Cyffredinol teirgwaith a Gwobr Giller dwywaith, a Gwobr Ryngwladol Man Booker yn 2009. Hi oedd y drydedd fenyw ar ddeg i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, a'r cyntaf o Ganada (os na chyfrif Saul Bellow, a dreuliodd ei wyth mlynedd gyntaf yng Nghanada cyn symud i'r Unol Daleithiau).[5] Rhoes y gorau i ysgrifennu oddeutu amser ei Gwobr Nobel, a dioddefai o ddementia am ddeuddeng mlynedd olaf ei hoes. Bu farw Alice Munro mewn cartref nyrsio yn Port Hope, Ontario, yn 92 oed.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) The Nobel Prize in Literature 2013, Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 1 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) "Canadian writer and Nobel prize winner Alice Munro dies at 92", BBC (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) "Alice Munro was the English language’s Chekhov", The Economist (15 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Richard Lea a Sian Cain, "Alice Munro obituary", The Guardian (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Alice Munro. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Anthony DePalma, "Alice Munro, Nobel Laureate and Master of the Short Story, Dies at 92", The New York Times (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Mai 2024.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Harold Bloom (gol.), Alice Munro (Bloom's Modern Critical Views) (Efrog Newydd: Bloom's Literary Criticism, 2009).
- Isla Duncan, Alice Munro's Narrative Art (Efrog Newydd: Palgrave Macmillan, 2011).
- Brad Hooper, The Fiction of Alice Munro: An Appreciation (Westport, Connecticut: Praeger, 2008).
- David Staines (gol.), The Cambridge Companion to Alice Munro (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2016).
- Robert Thacker (gol.), Alice Munro: Hateship, Friendship, Courtship, Loveship, Marriage, Runaway, Dear Life (Llundain: Bloomsbury Academic, 2016).
- Robert Thacker, Alice Munro's Late Style: "Writing is the Final Thing" (Llundain: Bloomsbury Academic, 2023).
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Genedigaethau 1931
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif o Ganada
- Llenorion benywaidd yr 21ain ganrif o Ganada
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Ganada
- Llenorion straeon byrion yr 21ain ganrif o Ganada
- Llenorion straeon byrion Saesneg o Ganada
- Marwolaethau 2024
- Pobl a aned yn Ontario