Alexander Glazunov
| Alexander Glazunov | |
|---|---|
| Ganwyd | 29 Gorffennaf 1865 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
| Bu farw | 21 Mawrth 1936 Neuilly-sur-Seine, Paris |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, addysgwr, cerddolegydd, athro cerdd, academydd, pianydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | String Quartet No. 2, Saxophone Concerto |
| Arddull | symffoni, cerddoriaeth glasurol |
| Perthnasau | Elena Günther-Glazunov |
| Gwobr/au | Artist Pobl yr RSFSR |
Roedd Alexander Konstantinovich Glazunov (10 Awst 1865 – 21 Mawrth 1936) yn gyfansoddwr, athro ac arweinydd o Rwsia. [1]
Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn un ar ddeg oed, derbyniodd wersi preifat gyda Nikolai Rimsky-Korsakov.[2] Cyfansoddodd ei symffoni gyntaf pan oedd yn 16 oed.[3] Rhwng 1898 a 1900, ysgrifennodd dri bale newydd, gafodd eu perfformiad cyntaf yn St Petersburg. Glazunov oedd yn arwain perfformiad cyntaf Symffoni rhif 1 Rachmaninoff yn 1897. Credir ei fod wedi meddwi yn ystod y perfformiad oherwydd roedd yn hunllef. Yn 1905, cafodd ei ddewis i fod yn gyfarwyddwr ar Ysgol Gerddoriaeth St Petersburg. Yn 1928, teithiodd ar draws Ewrop ac UDA. Ar ôl hyn, setlodd ym Mharis.
Bu farw Glazunov yn 1936 Neuilly-sur-Seine ger Paris. Yn 1972, symudwyd ei weddillion i Leningrad.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]- Cyfansoddodd Glazunov 8 symffoni, mae ei 9fed symffoni yn an-orffenedig. Ysgrifennodd bump concerto (2 piano; 1 ffidil; 1 sielo; 1 sacsoffon), tri bale a llawer mwy o gerddoriaeth cerddorfa a phiano.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Aleksandr Glazunov | Britannica". www.britannica.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2024.
- ↑ "Alexander Glazunov". www.wisemusicclassical.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2024.
- ↑ The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.