Nikolai Rimsky-Korsakov

Oddi ar Wicipedia
Nikolai Rimsky-Korsakov
Ganwyd6 Mawrth 1844 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Tikhvin Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lyubensk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Naval Cadet Corps Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, arweinydd, cerddolegydd, hunangofiannydd, athro cerdd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Saint Petersburg Conservatory Edit this on Wikidata
Adnabyddus amScheherazade, Symphony No. 1, The Golden Cockerel Edit this on Wikidata
Arddullopera, symffoni, cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
TadAndrey Rimsky-Korsakov Edit this on Wikidata
MamSofia Vasilievna Skaryatina Edit this on Wikidata
PriodNadezhda Rimskaya-Korsakova Edit this on Wikidata
PlantAndrey Rimsky-Korsakov, Mikhail Rimsky-Korsakov, Vladimir Rimsky-Korsakov, Q124808633 Edit this on Wikidata
PerthnasauIrina Golovkina Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Rimsky-Korsakov Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Nikolai Andreyevich Rimsky-Korsakov (18 Mawrth 184421 Mehefin 1908) [1] yn gyfansoddwr ac athro o Rwsia.[2] Roedd e'n un o'r cyfansoddwyr mwyaf enwog ar y pryd. Fel llawer o gyfansoddwyr o Rwsia yn y 19eg ganrif, roedd yn gyfansoddwr amatur. Roedd ei brif swydd yn y llynges.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Nikolai_Rimsky-Korsakov_as_cadet
Nikolai Rimsky-Korsakov yn 1856

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn 1844 yn Tikhvin, 200 cilometr i'r dwyrain o St Petersburg. Roedd llawer o'i deulu yn gweithio yn y fyddin neu'r llynges, ac roedd ei rieni yn gallu canu tipyn bach o biano. Pan oedd yn iau, dangosodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Byddai'n canu pob alaw roedd yn clywed. Dechreuodd cael gwersi piano pan oedd yn 6 gan yr athro lleol. Dechreuodd gyfansoddi yn 10 oed, ond roedd wastad well ganddo lenyddiaeth i gerddoriaeth.[3]

Fodd bynag, roedd e eisiau ymuno â'r llynges, felly yn 1862 aeth i 'College of Naval Cadets' lle roedd ei frawd Voin yn gyfarwyddwr. Parhaodd i ddysgu'r piano tra oedd yn ysgol y llynges. Doedd e byth yn bianydd gwych.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd Rimsky-Korsakov yn gweithio dau neu dri diwrnod yr wythnos i'r llynges. Treuliodd weddill ei amser yn cyfansoddi neu yn ymweld â ffrindiau. Fe wnaeth gwrdd â llawer o gyfansoddwyr eraill gan gynnwys Borodin a Dargomyzhsky. Roedd Tchaicovsky hefyd yn ffrind i Rimsky-Korsakov. Yn 1897, rhoddodd y gorau i gyfansoddi am sawl blwyddyn, ac aeth i archwilio bandiau Llynges a dysgu'n fanwl sut mae offerynnau yn gweithio.

Yn 1871, dechreuodd Rimsky-Korsakov ddysgu theori a chyfansoddi i ddisgyblion yn Ysgol Gerddoriaeth Saint Petersburg lle dysgodd 250 o ddisgyblion dros gyfnod o 35 mlynedd. Dysgodd mewn dwy ysgol arall ac yn breifat yn ei gartref. Mae rhai o'i ddisgyblion yn cynnwys: Igor Stravinsky, Sergei Prokofiev ac Alexander Glazunov.

Yn 1872, priododd Nadezhda Purgold. Roedd hi'n brydferth ac yn dda iawn am ganu'r piano ac helpodd hi i greu trefniannau o'i ddarnau cerddorfa i'r piano. Cawson nhw saith plentyn gyda'i gilydd. Ysgrifenodd hunangofiant. Bu farw yn 1908.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Mae Rimsky-Korsakov yn cael ei gofio yn bennaf am rai o'i gyfansoddiadau ar gyfer cerddorfa. Yn enwedig Scheherazade, Spanish Capriccio ac Easter Festival Overture. Un o'i weithiau enwocaf i'r piano yw Flight of the bumblebee. Ysgrifennodd 3 symffoni a nifer o operâu.

Rimsky-Korsakov - flight of the bumblebee


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Nikolay Rimsky-Korsakov | Russian Composer & Orchestrator". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ionawr 2024.
  2. The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.
  3. Frolova-Walker, New Grove (2001), 21:400.