Albert Jenkins (Rygbi'r Undeb)

Oddi ar Wicipedia
Albert Jenkins (Rygbi'r Undeb)
Albert Jenkins
Enw llawn Albert Edward Jenkins
Dyddiad geni (1895-03-11)11 Mawrth 1895
Man geni Llanelli,[1]
Dyddiad marw 7 Hydref 1953(1953-10-07) (58 oed)
Lle marw Llanelli
Taldra 5 ft 9 in
Pwysau 12 st 8 lb
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Canolwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
?
1919–1932
Seaside Stars
Clwb Rygbi Llanelli
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1920–1928 Cymru 14 (47)

Roedd Albert Edward Jenkins (11 Mawrth, 1895 - 7 Hydref, 1953) yn chwaraewr rygbi a fu'n chwarae i Glwb Rygbi Llanelli (y "Sgarlets") ac yn rhyngwladol dros Gymru rhwng 1919 a 1928[2]. Bu Jenkins yn un o'r cefnwyr gorau i chware dros Lanelli gan gael ei gymharu ag arwyr diweddarach y Sgarlets megis Lewis Jones a Phil Bennett[3]. Roedd Jenkins yn daclwr cryf ac yn rhedwr hynod o gyflym o ddechrau stond. Roedd hefyd yn giciwr ardderchog gyda'r naill droed a'r llall a gallai ergydio'r bêl dros hanner hyd y cae.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jenkins yn Llanelli ym 1895 yn un o 7 o blant William Jenkins, gweithiwr yn y dociau, a Margaret ei wraig [4]. Bu'n gweithio yn y gwaith tunplat ac yn y dociau; gwrthododd sawl cais i droi at rygbi'r gynghrair fel chwaraewr proffesiynol. Ym 1917 Priododd a Annie Sophia Rosser (1895-1945), bu iddynt 4 o blant, ond bu farw un yn ei fabandod.[5][6]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Jenkins chwarae rygbi gyda thîm o'r enw The Sand Lads tua 1909; tîm ieuenctid yn ardal Llanelli a oedd yn chwarae eu gemau ar y traeth ar faes oedd wedi ei farcio gyda llinellau ar y tywod. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Jenkins â Chatrawd y Milwyr Traed Cymreig[7], gan chwarae ar ran tîm ei gatrawd.[8]. Wedi dychwelyd o'r Rhyfel ym 1919 ymunodd â thîm hyn Llanelli, gan ddod yn arwr i'r clwb. Chwaraeodd dros Lanelli yn erbyn Seland Newydd ddwywaith gan golli ym 1924 ond gan eu curo 3-0 ym 1926.

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Cynrychiolodd Jenkins ei wlad ar 14 achlysur, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr ar 14 Ionawr 1920. Ei gêm orau oedd yr un yn erbyn Iwerddon ym 1920 lle bu'n gyfrifol am greu tri chyfle i'w gyd-chwaraewr Bryn Williams i sgorio ceisiadau, sgorio cais ei hun, cicio dau drosiad a chicio gôl adlam. Bu'n gapten ar y tîm cenedlaethol ar ddau achlysur.[9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Wedi salwch hir bu farw yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llanelli ar 7 Hydref 1953 yn 58 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym Mynwent y Box[10] gydag anrhydedd angladd dinesig gan Gyngor Fwrdeistref Llanelli ar 12 Hydref 1953.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Welsh Rugby Union player profiles[dolen marw]
  2. Y Bywgraffiadur JENKINS, ALBERT EDWARD ( 1895 - 1953 ), adalwyd 22 Mai, 2016
  3. ESPN In many games he touched greatness adalwyd 22 Mai, 2016
  4. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 cyfeirnod RG14/32862 RG78PN1876 RD596 SD3 ED17 SN30; 28 Bryn Road Llanelly
  5. Bedd y teulu ar 26:00 Munud o Yr Wythnos - Albert Jenkins [1] adalwyd 22 Mai 2016
  6. Gareth Williams, Jenkins, Albert Edward (1895–1953), Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Jan 2011 adalwyd 23 Mai, 2016
  7. Albert Jenkins : Rugby Player adalwyd 22 Mai 2016
  8. 3:10 Munud o Yr Wythnos - Albert Jenkins [2] adalwyd 22 Mai 2016
  9. Smith (1980), pg 467.
  10. Hanes Mynwent anghydffurfiol Llanelli Archifwyd 2016-06-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Mai, 2016

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]