Alan Payan Pryce-Jones
Alan Payan Pryce-Jones | |
---|---|
Ffugenw | Arthur Pumphrey |
Ganwyd | 18 Tachwedd 1908 Llundain |
Bu farw | 13 Chwefror 2000, 22 Ionawr 2000 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Henry Morris Pryce-Jones |
Mam | Marion Vere Dawnay |
Priod | Baroness Thérèse Fould-Springer, Mary Jean Kempner Thorne |
Plant | David Pryce-Jones |
Llenor a beirniad llenyddol o Loegr[1] oedd Alan Payan Pryce-Jones, (18 Tachwedd 1908 – 13 Chwefror 2000).
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Jones yn Llundain, yr hynaf o ddau fab y Brevet Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones (1878-1952) o Warchodlu'r Coldstream, a Marion Vere (1884-1956), ei wraig[2]. Roedd y teulu Pryce-Jones yn hanu o Sir Drefaldwyn; taid Alan oedd Syr Pryce Pryce-Jones (1834-1920), AS a chadeirydd Pryce-Jones Cyf, y gwneuthurwyr gwlân yn y Drenewydd.
Derbyniodd Pryce-Jones ei addysg yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Cafodd ei ddiarddel o Rydychen yn ei ail dymor o ganlyniad i'w bywyd cymdeithasol wyllt.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd y Farwnes Thérèse Carmen May Fould-Springer (1914-1953). Bu iddynt un mab, yr awdur David Pryce-Jones (g 1936). Ym 1968 priododd Pryce-Jones Mary Jean Thorne, awdur ac aelod o deulu Kempner o Galveston, Texas, ond bu hi farw ym Mharis flwyddyn yn ddiweddarach.[3]
Roedd teuluoedd ei ddwy wraig yn rhai hynod cefnog a bu eu golud yn rhoi moddion i Pryce-Jones byw ei fywyd bohemaidd llenyddol mewn cysur.
Ar ôl ei briodas cyntaf symudodd i fyw ar ystadau teulu ei wraig yn Awstria, ond wedi cyfeddiant Hitler o Awstria ym 1937 dychwelodd i Lundain gan fod teulu Mrs Pryce-Jones yn un o dras Iddewig.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r coleg aeth i weithio fel golygydd cynorthwyol heb dal ar gylchgrawn y London Mercury gan weithio yno o 1928 hyd 1932. Cyflwynodd John Betjeman i'r cylchgrawn, a chomisiynwyd straeon byrion gan ei ffrind agos James Stern.
Ym 1931 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf The Spring Journey, a ysbrydolwyd gan ei deithiau yn y Dwyrain Canol gyda Bobbie Pratt Barlow, swyddog hoyw yn Gwarchodlu'r Coldstream a ffrind i'w dad. Cyhoeddodd People in the South, tair stori fer yn seiliedig ar deithiau tebyg ym Mrasil, Tsile, ac Ecwador, ym 1934 cyhoeddodd Private Opinion, llyfr o feirniadaeth lenyddol 'anffurfiol', ac yna Pink Donwy ym 1939, a ysgrifennwyd dan y ffugenw Arthur Pumphrey, sef nofel yn canolbwyntio ar fywyd Adrian Bishop, mynach Anglicanaidd a chyfaill Maurice Bowra.
Bu'n Olygydd y Times Literary Supplement, 1948-1959, beirniad drama'r Observer o 1959 i 1960.
Ym 1960 symudodd i UDA lle weithiodd fel beirniad llyfrau ar gyfer y New York Herald Tribune, 1963-1966, World Journal Tribune, 1967-1968 a Newsday, 1969-1971 Bu'n feirniad theatr ar gyfer cylchgrawn Theatre Arts o 1963.
Roedd yn Gyfarwyddwr ymddiriedolaeth theatr yr Old Vic Trust rhwng 1950 a 1961. Gwasanaethodd fel aelod o gyngor Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain o 1956 i 1961 ac fel Cydymaith Rhaglen Dyniaethau a'r Celfyddydau Sefydliad Ford, Efrog Newydd o, 1961 i 1963.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Wedi dychwelyd i wledydd Prydain ym 1937 ymunodd Pryce-Jones a'r Blaid Ryddfrydol gan edmygu safiad arweinydd y blaid, Syr Archibald Sinclair yn erbyn yr Almaen Natsïaidd. Daeth yn Is-Lywydd Cymdeithas Ryddfrydol St Marylebone a chafodd ei fabwysiadu fel y darpar ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Louth yn Swydd Lincoln, fel yn olynydd i'r AS Rhyddfrydol Margaret Wintringham a oedd am sefyll i lawr o'r sedd. Bwriadwyd cynnal yr etholiad ym 1940 ond wedi cyhoeddi Rhyfel a'r Almaen ym 1939 gohiriwyd yr etholiad hyd ddiwedd y rhyfel; penderfynodd Pryce-Jones i beidio ymgeisio am sedd yn etholiad 1945.
Gyrfa milwrol
[golygu | golygu cod]Gan ei fod yn siaradwr Almaeneg, rhugl wedi bod yn byw yn Awstria, gwasanaethodd yn y corfflu cudd-wybodaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn Ffrainc ar adeg yr enciliad o Dunkerque, ac yn gweithio fel rhan o raglen torri codau dirgel Ultra yn Bletchley Park, mewn adran wedi'i neilltuo i drefniadau brwydr byddin yr Almaen. Gwasanaethodd yn fyr ar y staff yr Wythfed Fyddin yn Trentino, gogledd yr Eidal, ac yn Caserta ym 1943, gan ddod yn Is Gyrnol, gyda'r addurniadau tiriogaethol, a ddaeth ei yrfa filwrol i ben yn Fienna lle fu'n gwasanaethu fel swyddog cyswllt gyda'r fyddin Sofietaidd.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Ysbyty Meddygol Prifysgol Texas, Galveston, Unol Daleithiau America, ar 22 Ionawr 2000. Fe'i claddwyd ar 13 Chwefror 2000 ym mynwent Viarmes, ger Chantilly, Oise, Ffrainc.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Spring Journey, 1931
- People in the South, 1932
- Beethoven, 1933
- 27 Poems, 1935
- Private Opinion, 1936
- Nelson, opera, 1954
- Vanity Fair, drama gerdd, (gyda Robin Miller a Julian Slade) 1962
- The Bonus of Laughter (hunangofiant), 1987
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hugo Vickers, ‘Jones, Alan Payan Pryce- (1908–2000)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 30 Oct 2016
- ↑ ‘PRYCE-JONES, Alan Payan’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 30 Oct 2016
- ↑ Prabook Alan Payan. T.D PRYCE-JONES
- ↑ The Guardian Obituaries 9 February 2000 Alan Pryce-Jones adalwyd 30 Hydref 2016