Al-Nahda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcultural movement Edit this on Wikidata
Enw brodorolالنهضة العربية Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y mudiad diwylliannol yw hon. Am y blaid wleidyddol Tiwnisiaidd gweler Hizb al-Nahda.

Mudiad neu duedd diwylliannol ac ymenyddol yn y byd Arabaidd ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20fed a'i wreiddiau'n gorwedd yn Libanus, ond a symudodd wedyn i'r Aifft yn bennaf, oedd Al-Nahda neu an-Nahda/Ennahda (Arabeg: النهضة, "Dadeni").

Roedd Al-Nahda yn un o'r tueddiadau hanesyddol pwysicaf ym myd ymenyddol a diwyllianol yr Arabiaid, ac yn neilltuol Arabiaid y Dwyrain Canol, a gafodd effaith pellgyrhaeddol ar lenyddiaeth, gwleidyddiaeth, diwylliant a chrefydd. Yn y byd Arabaidd caiff ei gymharu'n aml â'r Oleuedigaeth yn Ewrop yn y 18g, fel cyfnod o foderneiddio a datblygu ymenyddol a diwygiad gwleidyddol a chrefyddol.

Bu gan Al-Nahda ran allweddol yn y twf mewn cenedlaetholdeb Arabaidd a'r her i ddominyddiaeth ar y byd Arabaidd gan y pwerau gwladychol Ewropeaidd (Ffrainc a Phrydain yn enwedig). Cafodd syniadau a datblygiadau Ewropeaidd ddylanwad mawr ar Al-Nahda, ond ar yr un pryd teimlai rhai fod angen gwrthsefyll y dylanwadau hynny trwy atgyfnerthu traddodiadau Arabaidd ac Islamaidd a chryfhau undod diwylliannol yr Arabiaid. Ymhlith yr ysgogiadau a arweiniodd at eni'r mudiad gellid crybwyll y sioc a barodd gorsegyniad yr Aifft gan Napoleon yn 1798, a'r symudiadau am ddiwygiad gan rhai o khedives y wlad honno, fel Muhammad Ali. Dylanwad arall oedd y diwygiadau tanzimat gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, rheolwr rhan helaeth o'r Dwyrain Canol hyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflwynodd y diwygiadau hyn drefn gyfansoddiadol i wleidyddiaeth yr ymerodraeth a arweiniodd yn y pen draw i greu dosbarth gwleidyddol Arabaidd a nifer o'i aelodau yn dymuno annibyniaeth a rhyddid i'r Arabiaid.

Symudodd canolfan yr al-Nahda i'r Aifft yn fuan ar ôl ei sefydlu. Cairo oedd "pencadlys" y mudiad, ffaith sy'n pwysleisio rôl hanesyddol y ddinas honno a'r Aifft yn y byd Arabaidd. Ond roedd gweithgareddau Al-Nahda yn amlwg hefyd mewn canolfannau eraill, yn enwedig Beirut ac, i raddau llai, ddinas Damascus.