Agosti Xaho
Agosti Xaho | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1811 Tardets-Sorholus |
Bu farw | 23 Hydref 1858 Baiona |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, llenor |
Mudiad | Rhamantiaeth |
llofnod | |
Brodor o Tardets-Sorholus yn Zuberoa, Gwlad y Basg Ffrengig, oedd Joseph-Augustin Chaho (10 Hydref 1811 - 23 Hydref 1858) (neu Joseph-Augustin Chaho): dyfeisydd chwedl creadigaeth y Basgiaid, Aitor, awdur y gwaith cenedlaetholgar Voyage en Navarre pendant l’Insurrection des Basques de 1830-1835 (1836) a nifer o astudiaethau ieithyddol mewn Basgeg (Euskara).
Gweriniaethwr a radical yn nhraddodiad y Chwyldro Ffrengig oedd Chaho yn y bôn ond cefnogodd y mudiad brehinol traddodiadol Carliaeth yn Sbaen oherwydd ei ymrwymiad i amddiffyn fueros y taleithiau Basgaidd ac annibyniaeth wleidyddol i Euskal Herria. Mewn cyfres o weithiau ac erthyglau yn ei gylchgrawn ei hun, galwodd Chaho am ffederasiwn Basgaidd ar sail hunaniaeth ddaearyddol, ieithyddol a chyfreithiol y Basgiaid a hynny hanner canrif cyn i Sabino Arana ddatblygu syniadau tebyg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- CHAHO, Joseph Augustin Sbaeneg; Bernardo Estornés Lasa - Auñamendi Encyclopedia
- Cyhoeddiad ar-lein 'Azti-Begia' Archifwyd 2014-02-18 yn y Peiriant Wayback