Afon Waal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Waal
2007-03-08 15.00 Ochten, zicht op de Waal foto2.JPG
Math Afon, distributary Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Grote rivieren Edit this on Wikidata
Sir Noord-Brabant, Zuid-Holland, Gelderland Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Cyfesurynnau 51.8917°N 5.5207°E, 51.8167°N 5.05°E Edit this on Wikidata
Tarddiad Afon Rhein Edit this on Wikidata
Aber Boven Merwede Edit this on Wikidata
Llednentydd Linge, Camlas Amsterdam–Rhine, Q1922352 Edit this on Wikidata
Hyd 84 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad 1,500 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Afon Waal

Afon yn yr Iseldiroedd ac un o ganghennau Afon Rhein yw Afon Waal. Y Waal yw'r gangen fwyaf o'r Rhein, sy'n ymrannu ger pentref Pannerden i greu Camlas Pannerden a'r Waal. Ger Westervoort mae Camlas Pannerden yn ymrannu i'r IJssel a'r Nederrijn.

Arferai'r Waal ymuno ag Afon Maas ger Woudrichem, ond mae ei chwrs yn awr wedi ei newid i gadw'r ddwy afon ar wahan yma, ac mae dŵr y Waal yn cyrraedd y môr ar hyd nifer o afonydd, y Noord, y Nieuwe Maas a'r Nieuwe Waterweg. Cysylltir y Waal ag Amsterdam a'r Nederrijn gan Gamlas Amsterdam-Rhein a chyda'r Maas gan Gamlas Maas-Waal ger Nijmegen a Chamlas Sint Andries.