Nieuwe Maas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad y Nieuwe Maas

Afon yn yr Iseldiroedd yw'r Nieuwe Maas ("Maas Newydd"). Mae'n rhan o'r rhwydwaith cynhleth o afonydd a chamlesi sy'n ffurfio delta afon Rhein ac afon Meuse.

Ffurfir y Nieuwe Maas pan mae afon Noord ac afon Lek yn cyfarfod, ac mae'n llifo tua'r gorllewin heibio Rotterdam. I'r gorllewin o Rotterdam, mae'n ymuno a'r Oude Maas ("Hen Maas") ger Vlaardingen, i ffurfio Het Scheur. Mae tua 24 km o hyd.

Pont Erasmus dros y Nieuwe Maas yn Rotterdam