Neidio i'r cynnwys

Afon Llyfnant

Oddi ar Wicipedia
Afon Llyfnant
Afon Llyfnant ger ei chymer ar Afon Dyfi
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.55°N 3.94°W Edit this on Wikidata
AberAfon Dyfi Edit this on Wikidata
Map

Afon yng ngogledd Ceredigion yw Afon Llyfnant. Mae'n un o lednentydd Afon Dyfi ac yn llifo i'r afon honno ger ei haber ger Gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi, tua 3.5 milltir i'r de-orllewin o dref Machynlleth. Ei hyd yw tua 6 milltir. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'n dynodi'r ffin sirol rhwng Powys a Cheredigion.

Mae'r afon yn tarddu tua 400 meter i fyny yn Llyn Pen-rhaeadr, ger safle Brwydr Hyddgen ym mryniau gogleddol Pumlumon. Llifa Afon Llyfnant allan o'r llyn i gyfeiriad y gogledd. Mae'n llifo dros graig gan greu rhaeadr Pistyll y Llyn tua hanner milltir o'r llyn.[1] Cyfeiria enw'r llyn hwnnw at y rhaeadr hon.

Llifa'r llednant Nant y Gog i'r afon hanner milltir i lawr o'r rhaeadr. Ceir rhaeadr arall yng Nghwm y Rhaiadr lle daw ffrwd arall (ddienw) i lifo iddi o lethrau Creigiau Bwlch Hyddgen.[1]

Mae'r afon yn troi i gyfeiriad y gorllewin am weddill ei chwrs gan lifo trwy goedwigoedd Cwm Llyfnant. Mae'n llifo heibio i bentrefan Glaspwll. Mae'n llifo dan y briffordd A487 lle ceir Pont Llyfnant i gludo'r ffordd drosti ac yn cyraedd gwastadedd gwlyb glannau Afon Dyfi gan lifo i'r afon honno ger Gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi, rhyw filltir o aber Dyfi.[1] Mae'r gwlybdir hon yn warchodfa natur sy'n rhan o ardal Biosffer Dyfi.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Map OS Landranger 1:50,000. Taflen 135.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]