Afon Iorddonen
Math | afon, border river |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Libanus, Gwladwriaeth Palesteina, Gwlad Iorddonen, Israel, Syria |
Uwch y môr | 2,814 metr, −416 metr |
Cyfesurynnau | 33.1867°N 35.6192°E, 31.7614°N 35.5583°E |
Tarddiad | Ucheldiroedd Golan, Sde Nehemia |
Aber | Môr Marw |
Llednentydd | Afon Yarmouk, Afon Zarqa, Wadi al-Far'a, Wadi Qelt, Afon Dan, Harod stream, Banyas, Afon Hasbani, Nachal Bezek, Nachal Dišon, Nachal Milcha, Nachal Anin, Nachal Avuka, Hagal Stream, Nachal Došen, Naẖal Menẖemya, Nachal Minta, Nachal ha-Jadid, Yavneel stream, Nahal Tavor, Fatzael Stream, Naẖal Yissakhar, Q3334483, Nachal Orvim, Q6571692, Q6580259, Q112634246, Q112634333, Q6794113, Q112634512, Gilbon River, Nahal Mahanayim, Nahal Rosh Pina, Q112634743, Q112634752, Wadi Auja, Q117805470, Q49771960 |
Dalgylch | 18,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 252 cilometr |
Llynnoedd | Môr Galilea |
Afon yn y Dwyrain Canol yw Afon Iorddonen. Mae'n 360 km o hyd, ac yn llifo trwy Libanus ac Israel/Palesteina, gan ffurfio'r ffîn rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, yna'r ffîn rhwng Gwlad Iorddonen a'r Lan Orllewinol, sydd ar hyn o bryd ym meddiant Israel, cyn llifo i mewn i'r Môr Marw.
Mae tarddiad yr afon ym mynyddoedd Antilibanus, ar lechweddau Mynydd Hermon yn Libanus. Daw ei dŵr o dair ffynhonnell: glawogydd (yn bennaf yn y gaeaf), ffynhonnau yn tarddu o geigiau karst mynyddoedd Antilibanus, a'r eira yn meirioli ar lechweddau Mynydd Hermon yn y gwanwyn. Mae'n llifo tua'r de i mewn i Israel, ac yn llifo trwy Fôr Galilea cyn gadael y llyn gerllaw kibbutz Degania, ar ochr ddeheuol y llyn. Mae'n mynd ymlaen tua'r de i lifo i mewn i ran ogleddol y Môr Mawr. Yr unig afon o faint sy'n llifo i mewn iddi yw Afon Yarmuk, sy'n ffurfio rhan o'r ffîn rhwng Gwlad Iorddonen a Syria.
Ceir nifer fawr o gyfeiriadau ar yr Iorddonen yn y Beibl, ac oherwydd hyn, magodd bwysigrwydd crefyddol mawr. Fe'i defnyddir yn aml mewn delweddau crefyddol; gall "croesi'r Iorddonen" olygu marw ("Ar lan Iorddonen ddofn/Rwy'n oedi'n nychlyd...").