Aeryn Jones

Oddi ar Wicipedia
Aeryn Jones
Ffugenw Aeryn Llangwm
Geni 1939
Llangwm, Conwy
Cenedligrwydd Baner Cymru Cymreig
Gwaith nodedig Moch Bach Mewn Basged Ddillad - Aeryn Llangwm

Hwsmon a garddwr Cymreig yw Aeryn Jones neu 'Aeryn Llangwm' (ganwyd 1939). Caiff ei adnabod fel un o gymeriadau cefn gwlad, yn ddigrifwr, storïwr, llwyfannwr, adroddwr, casglwr a limrigwr.

Mae'n enedigol o Langwm, Conwy. Bu'n gweithio fel hwsmon ar fferm Llwyn Dedwydd, Tŷ Nant am bron i ugain mlynedd cyn mynd yn arddwr i gartref Cysgod y Gaer, Corwen hyd nes ei ymddeoliad.

Fe enillodd Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Bu'n teithio dros Gymru i eisteddfodau a chyngherddau, gan ennill ugeiniau o gwpanau a medalau, a chasglu nifer o hanesion difyr a doniol wrth ddiddanu.[1]

Ysgrifennodd ei hunangofiant yn y gyfrol Moch Bach Mewn Basged Ddillad a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin 2013 gan Y Lolfa.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Moch Bach Mewn Basged Ddillad - Aeryn Llangwm. Gwales. Adalwyd ar 1 Mehefin 2016.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.