Adolfo Bioy Casares

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Adolfo Bioy Casares
Adolfo Bioy Casares 1968.png
Ganwyd 15 Medi 1914 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Mawrth 1999 Edit this on Wikidata (84 oed)
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Sgriptiwr, newyddiadurwr, golygydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am The Invention of Morel Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Jorge Luis Borges Edit this on Wikidata
Priod Silvina Ocampo Edit this on Wikidata
Gwobr/au Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Miguel de Cervantes, Alfonso Reyes International Prize, Prif Anrhydedd y SADE, Konex de Brillante Edit this on Wikidata

Nofelydd, llenor straeon byrion, a golygydd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Adolfo Bioy Casares (15 Medi 19148 Mawrth 1999).[1] Roedd yn un o brif ffigurau llên yr Ariannin yn yr 20g. Mae ei ffuglen yn nodedig am ei harddull ffantastig a'i themâu metaffisegol.

Ganwyd i deulu cefnog yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, gyda chefnogaeth ei dad, yn 1929.[2] Astudiodd y gyfraith cyn iddo newid ei gwrs i athroniaeth a llên ym Mhrifysgol Buenos Aires. Cyhoeddodd tair cyfrol o straeon byrion (17 disparos contra el porvenir, 1933; Caos, 1934; Luis Greve, muerto, 1937) ac un nofel (La nueva tormenta o la vida de Juan Ruteno, 1935) cyn iddo ennill enw amlwg fel awdur y nofel La invención de Morel (1940).

Cyfarfu Jorge Luis Borges yn 1932, a bu'r ddau yn gyfeillion ac yn gydweithwyr llenyddol hyd oes. Golygasant y cylchgrawn llenyddol Destiempo yn 1936. Cyd-ysgrifennodd Bioy Casares a Borges sawl gwaith dan ffugenwau megis Honorio Buston Domecq, B. Suarez Lynch, a B. Lynch Davis. Ymhlith eu gweithiau ar y cyd mae Seis problemas para Don Isidro Parodi (1942) a Crónicas de Bustos Domecq (1967), cyfres sy'n dychanu bywyd cyhoeddus yr Ariannin. Cyd-olygasant gyfrol o straeon ditectif, Los mejores cuentos policiales (1943), a dwy gyfrol o farddoniaeth gaucho, Poesía gauchesca (1955). Priododd y bardd a llenores straeon byrion Silvina Ocampo, yn 1940, a chawsant ferch o'r enw Marta yn 1954. Cydweithiodd ar sawl gwaith â'i wraig, gan gynnwys y gyfrol o straeon Los que aman, odian (1948). Cydweithiodd Bioy Casares, ei wraig Silvina, a Borges wrth olygu Antología de la literature fantástica (1940) ac Antología poética argentina (1941). Rhwng 1945 a 1960, rheolwyd menter gyhoeddi gan Bioy Casares a Borges i gyfieithu nifer o lenorion Saesneg, gan gynnwys Cecil Day-Lewis, Joseph Conrad, H. G. Wells, ac Henry James, i'r Sbaeneg.[3]

Ymhlith ei nofelau eraill mae Plan de evasión (1945), El sueño de los héroes (1954), Diario de la guerra del cerdo (1969), Dormir al sol (1973), a La aventura de un fotógrafo en La Plata (1985). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae La trama celeste (1948), El gran serafín (1967), Historias de amor (1972), a Historias fantásticas (1972).

Roedd Bioy Casares yn hoff iawn o baffio, ac yn chwarae tenis nes yr oedd yn 74 oed.[3] Rhoddwyd Gwobr Cervantes, yr anrhydedd uchaf ei bri yn llenyddiaeth Sbaeneg, iddo yn 1990.[4] Bu farw ei wraig Silvina yn 1993, a'u merch Marta ychydig dyddiau yn ddiweddarach mewn damwain ffordd. Yn nghyfnod diweddar ei oes, ymddangosodd mewn hysbyseb teledu ar gyfer cardiau credyd American Express.[3] Bu farw yn Buenos Aires yn 84 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Nick Caistor, "Adolfo Casares obituary", The Guardian (19 Mawrth 1999). Adalwyd ar 15 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) Adolfo Bioy Casares. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Andrew Graham-Yooll, "Obituary: Adolfo Bioy Casares", The Independent (10 Mawrth 1999). Adalwyd ar 15 Ebrill 2019.
  4. (Sbaeneg) Pedro Sorela, "Bioy Casares, premio Cervantes 1990", El País (16 Tachwedd 1990). Adalwyd ar 15 Ebrill 2019.