Antología de la literatura fantástica

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Llyfr edit this on wikidata
Teitl Antología de la Literatura Fantástica Edit this on Wikidata
Golygydd Adolfo Bioy Casares, Jorge Luis Borges, Silvina Ocampo Edit this on Wikidata
Cyhoeddwr Editorial Sudamericana (Buenos Aires)
Gwlad Yr Ariannin
Iaith Sbaeneg
Dyddiad cyhoeddi 1940 Edit this on Wikidata
Genre ffantasi Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Antholeg o ryddiaith a barddoniaeth ffantasi yn yr iaith Sbaeneg yw Antología de la literatura fantástica a gyhoeddwyd gan Editorial Sudamericana (Buenos Aires) yn 1940 dan olygyddiaeth Jorge Luis Borges, Adolfo Bioy Casares, a Silvina Ocampo, tri o brif lenorion yr Ariannin yn yr 20g.

Egyr y gyfrol gyda rhaglith bolemig gan Bioy Casares sydd yn canmol genre ffantasi ac yn lladd ar realaeth sosialaidd a costumbrismo. Straeon byrion a droswyd o'r Saesneg ydy'r mwyafrif o ddetholion, ac hefyd cyfieithiadau o Almaeneg, Ffrangeg, ac ambell iaith arall. Mae'r ychydig o ddetholion o awduron Sbaeneg yn cynnwys straeon byrion gan Leopoldo Lugones, Manuel Peyrou, a Borges.[1]

Cyhoeddwyd yr ail argraffiad yn 1965, a hynny'n cynnwys rhagor o ddetholion Sbaeneg. Ymhlith yr ychwanegiadau mae straeon byrion gan Elena Garro, H. A. Murena, a Juan Rodolfo Wilcock, yn ogystal â holl destun y nofel fer Sombras suele vestir (1941), a ysgrifennwyd gan José Bianco ar gyfer yr argraffiad cyntaf ond oedd heb ei gorffen o fewn amser. Ysgrifennodd Ocampo a Bioy Casares hefyd straeon newydd ar gyfer yr ail argraffiad.[1]

Cyhoeddwyd argraffiad Saesneg o'r gyfrol, The Book of Fantasy, gan Viking (Efrog Newydd) yn 1988 gyda rhagymadrodd gan Ursula K. Le Guin, a chyfieithiad Portiwgaleg, Antologia da literatura fantástica, gan Cosac Naify (São Paulo) yn 2013.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Daniel Balderston, "Antología de la literatura fantástica" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 23.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Daniel Balderston, "La Antología de la literatura fantástica y sus alrededores", Casa de las Américas 229 (2002), tt. 104–10.