Silvina Ocampo

Oddi ar Wicipedia
Silvina Ocampo
GanwydSilvina Inocencia Ocampo Aguirre Edit this on Wikidata
28 Gorffennaf 1903, 28 Mehefin 1903 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1993 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, nofel, stori fer Edit this on Wikidata
PriodAdolfo Bioy Casares Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Konex, Prif Anrhydedd y SADE, Premio Nacional de Letras de Argentina Edit this on Wikidata

Bardd a llenores straeon byrion yn yr iaith Sbaeneg a chyfieithydd ac arlunydd Archentaidd oedd Silvina Ocampo (28 Gorffennaf 190314 Rhagfyr 1993).

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, i deulu cefnog. Un o'i chwiorydd hŷn oedd Victoria Ocampo, cyhoeddwr y cylchgrawn llenyddol Sur. Astudiodd Silvina baentio ym Mharis.

Priododd y llenor Adolfo Bioy Casares, yn 1940, a chawsant ferch o'r enw Marta yn 1954. Roedd yn gyfeillgar â nifer o feistri llên yr Ariannin yn yr 20g, gan gynnwys Jorge Luis Borges a Julio Cortázar. Cydweithiodd ar sawl gwaith â'i gŵr, gan gynnwys y gyfrol o straeon Los que aman, odian (1948). Ymhlith ei chyfrolau o farddoniaeth mae Poemas de amor desesperado (1949) ac Amarillo celeste (1972), ac ymhlith ei chasgliadau ffuglen mae Autobiografia de Irene (1959), La furia (1961), ac El Destino en las ventanas (1987). Cyfieithiodd waith nifer o lenorion Americanaidd i'r Sbaeneg, gan gynnwys Emily Dickinson, Edgar Allan Poe, ac Herman Melville.

Cydweithiodd Ocampo, Bioy Casares, a Borges wrth olygu Antología de la literatura fantástica (1940) ac Antología poética argentina (1941).

Bu farw yn Buenos Aires yn 90 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) James Kirkup, "Obituary: Silvina Ocampo", The Independent (22 Ionawr 1994). Adalwyd ar 11 Ebrill 2019.