Adele (cantores)
| Adele | |
|---|---|
| Ffugenw | Adele |
| Ganwyd | Adele Laurie Blue Adkins 5 Mai 1988 Tottenham |
| Label recordio | XL Recordings, Columbia Records, Sony Music Entertainment |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, cerddor, artist recordio |
| Swydd | MBE |
| Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, blue-eyed soul, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, jazz, cerddoriaeth roc |
| Math o lais | mezzo-soprano |
| Priod | Simon Konecki |
| Plant | Angelo Adkins |
| Gwobr/au | MBE, Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Gwobr Grammy am y Perfformiad Pop Unigol Gorau, Gwobr Grammy am Record y Flwyddyn, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Brit Award for British Female Solo Artist, Gwobr Grammy am Berfformiad Lleisiol Pop Benywaidd Gorau, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Grammy Award for Song of the Year, Gwobr Grammy am y Perfformiad Pop Unigol Gorau, Grammy Award for Best Song Written for Visual Media, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Gwobr Grammy am Record y Flwyddyn, Premios Odeón, Gwobr Time 100, Broadcast Film Critics Association Award for Best Song |
| Gwefan | https://www.adele.com |
| llofnod | |
Cantores a chyfansoddwr o Loegr ydy Adele Laurie Blue Adkins[1] (ganwyd 5 Mai 1988), sy'n adnabyddus fel Adele. Cynigwyd cytundeb recordio i Adele gyda XL Recordings ar ôl iddynt ddod o hyd i'w phrawf-fideo a bostiwyd gan ffrind iddo ar MySpace yn 2006. Y flwyddyn nesaf, enillodd y wobr "Critics' Choice" yn y Brit Awards a'r Sound of 2008 gan y BBC. Rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, 19, yn 2008 a chafodd hi lawer o lwyddiant beirniadol a masnachol. Ardystir yr albwm yn bedair gwaith platinwm yn y DU, a dwywaith platinwm yn Unol Daleithiau America.[2][3] Cafodd ei gyrfa yn yr Unol Daleithiau hwb pellach gan iddi berfformio ar Saturday Night Live yn 2008. Yng Ngwobrau'r Grammy 2009, cafodd Adele wobrau ar gyfer Artist Gorau Newydd a Pherfformiad Lleisiol Pop Benyw Gorau.[4][5]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Adele yn Tottenham, Llundain, i fam o dras Seisnig, Penny Adkins, a thad o dras Gymreig, Marc Evans.[6] Gadawodd Evans y teulu pan oedd Adele yn ddwy mlwydd oed, gan adael i'w mam ei magu.[7][8] Cychwynodd ganu yn bedair mlwydd oed a mae'n honni ei bod wedi gwirioni gyda lleisiau.[9][10] Erbyn 1997 roedd mam Adele wedi dod i hyd i waith fel gwneuthurwraig dodrefn a threfnydd gweithgareddau i oedolion, a symudodd hi ac Adele i Brighton.[11]
Yn 1999 symudodd hi a'i mam nôl i Lundain; yn gyntaf i Brixton, yna i'r ardal gyfagos West Norwood yn ne Llundain, a ddaeth yn destun i'w chân gyntaf “Hometown Glory”.[12] Treuliodd lawer o amser yn ei llencyndod yn Brockwell Park lle byddai'n chwarae'r gitâr a chanu i ffrindiau, ac mae'n dweud yr hanes yn ei chân 2015 “Million Years Ago”. Mae'n datgan, “It has quite monumental moments of my life that I’ve spent there, and I drove past it [in 2015] and I just literally burst into tears. I really missed it.”[13] Graddiodd Adele o ysgol BRIT ar gyfer Celfyddydau Perfformio a Technoleg yn Mai 2006,[14] lle roedd yn gyd-ddisgybl i Leona Lewis a Jessie J.[1][15] Mae Adele yn cydnabod yr ysgol am feithrin ei thalent[16] er ar y pryd, roedd ganddi mwy o ddiddordeb mynd i fyd A&R ac yn gobeithio lansio gyrfaoedd pobl eraill.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cychwynodd Adele garu gyda'r entrepreneur elusennol Simon Konecki yn Haf 2011.[17] Ym Mehefin 2012, cyhoeddodd Adele ei bod hi a Konecki yn disgwyl babi.[18][19] Ganwyd eu mab Angelo ar 19 Hydref 2012.[20]
Yn gynnar yn 2017, roedd straeon tabloid yn dyfalu bod y cwpl wedi priodi yn gyfrinachol wedi i'r ddau gael eu gweld yn gwisgo modrwyon cyfatebol.[21] Wrth dderbyn ei gwobr Grammy ar gyfer Albwm y Flwyddyn, cadarnhaodd Adele ei phriodas drwy gyfeirio at Konecki fel ei gŵr a diolch iddo.[22] Cadarnhaodd hyn eto mewn cyngerdd yn Brisbane Awstralia drwy ddatgan i'r gynulleidfa "I'm married now".[23]
Yn Ebrill 2019, gwnaed datganiad i'r Associated Press gan gynrychiolydd i Adele yn dweud ei bod hi a Konecki wedi gwahanu ar ôl saith mlynedd gyda'i gilydd, ond byddent yn parhau i fagu eu mab gyda'i gilydd.[24][25] Ar 13 Medi 2019 daeth y newyddion fod Adele wedi gofyn am ysgariad o Konecki yn yr Unol Daleithiau.[26]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Frehsée, Nicole (22 Ionawr 2009), "Meet Adele, the U.K.'s Newest Soul Star", Rolling Stone. (1070):26
- ↑ Certified Awards Search. British Phonographic Industry.
- ↑ "Gold & Platinum - 19 Chwefror 2011". Archifwyd 2016-01-05 yn y Peiriant Wayback Recording Industry Association of America (RIAA). Adalwyd 19 Mawrth 2012
- ↑ Brits on top: Duffy, Adele and Coldplay clinch top awards as they lead British winners at Grammys , Daily Mail, 9 Chwefror 2011. Cyrchwyd ar 12 Gorffennaf 2011.
- ↑ Coldplay, Robert Plant, Radiohead, Duffy and Adele win at Grammy Awards, Daily Mirror, adalwyd 21 Chwefror 2011
- ↑ Patterson, Sylvia (27 Ionawr 2008). "Mad about the girl". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.
- ↑ Haines, Chris. "Adele's Welsh father Mark Evans reveals his heartache over 'letting down' six-time Grammy Awards winner – Wales News". WalesOnline. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ Van, Jonathan. "Adele: One and Only – Magazine". Vogue. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-14. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ "Grammy-nominated Adele taking fame in stride". The Baltimore Sun. 15 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Gorffennaf 2012.
- ↑ Otiji, Adaora (15 Ionawr 2009). "Singing Stronger Every Day: Adele". The Washington Post. Washington D.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2011. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2015.
- ↑ Sylvia Patterson (27 Ionawr 2008). "Interview: Adele Atkins, singer". The Observer. London. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
- ↑ Heawood, Sophie (28 December 2007). "Adele-ation starts here". The Times. London.[dolen farw]
- ↑ "Adele Performs 'Million Years Ago' and 'Hometown Glory' on BBC Special". Billboard. Cyrchwyd 5 Mai 2019.
- ↑ Youngs, Ian (4 Ionawr 2008). "Soul singers top new talent list". BBC News. Cyrchwyd 1 Ionawr 2010.
- ↑ Collis, Clark (19 December 2008), "Spotlight on... Adele." Entertainment Weekly. (1026):62.
- ↑ "Interview: Adele—Singer and Songwriter—Blogcritics Music". Blogcritics.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2011. Cyrchwyd 18 Awst 2011.
- ↑ "Adele Is Pregnant!". Us Weekly. 29 Mehefin 2012. Cyrchwyd 21 Hydref 2012.
- ↑ Adele (29 Mehefin 2012). "I've got some news..." Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.[dolen farw]
- ↑ "Adele pregnant with first child". The Belfast Telegraph. 29 Mehefin 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-13. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ Letkemann, Jessica (21 Hydref 2012). "Adele Gives Birth to Baby Boy: Reports". Billboard. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Adele Sparks Marriage Rumors After Singer and Simon Konecki Step Out Wearing New Rings". Etonline.com. 3 Ionawr 2017. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
- ↑ Holcombe, Madeline (13 Chwefror 2017). "Adele confirms she's married by thanking her 'husband' at the Grammys". CNN.com. CNN. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
- ↑ "Adele confirms she is married to Simon Konecki". BBC Radio 1 Newsbeat. BBC. 5 Mawrth 2017. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
- ↑ Nelson, Jeff; Merrett, Robyn (19 Ebrill 2019). "Adele and Husband Simon Konecki Split After More Than 7 Years Together". People. Cyrchwyd 20 Ebrill 2019.
- ↑ Fekadu, Mesfin (19 Ebrill 2019). "Rep: Adele, husband Simon Konecki have separated". Associated Press. Cyrchwyd 20 Ebrill 2019.
- ↑ "Adele files for divorce from husband Simon Konecki". BBC News. BBC. 13 Medi 2019. Cyrchwyd 13 Medi 2019.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
