Ada Adini

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ada Adini
Ada Adini vestida de valquíria (fotografia d'Antoni Esplugas).jpeg
Ganwyd 1855 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farw Chwefror 1924 Edit this on Wikidata
Dieppe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Canwr, canwr opera, athro celf, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Math o lais Soprano Edit this on Wikidata
Priod Paul Milliet Edit this on Wikidata

Roedd Ada Adini (1855 - Chwefror 1924) yn gantores opera soprano o'r Unol Daleithiau. [1]

Ganwyd Adini yn Boston. Astudiodd canu ym Mharis o dan hyfforddiant Pauline Viardot a Giovanni Sbrigalia.

Fe wnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf mewn opera yn Varese ym 1876 yn chware rôl y teitl yn opera comique Giacomo Meyerbeer Dinorah. Bu ar daith gyda chwmni Mapleson yn Efrog Newydd ac wedi dychwelyd i Ewrop bu'n canu'n rheolaidd yn yr Opéra Paris o 1887. Un o'i chyfraniadau mwyaf nodedig i'r Opéra Paris oedd ym mherfformiad cyntaf o'r opera Ascanio gan Saint-Saëns ym 1890. Chwaraeodd rhan Donna Anna yn opera Motzart Don Giovanni yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1894 ac eto ym 1897. Bu'n llwyddiannus yn perfformio operâu Wagner gan ganu rhan Brünnhilde yn y première Eidalaidd o Die Walküre yn La Scala ym 1893

Ymysg y rhannau eraill bu Adini yn perfformio bu Anita yn La Navarraise, Brunehild yn Sigurd, Catherine d'Aragon yn Henry VIII, Charlotte yn Werther, Chimène yn Le Cid, Ardalyddes Almaviva yn Le nozze di Figaro, Desdemona yn Otello, Isolde yn Tristan und Isolde, Rachel yn La Juive, Sélika yn L'Africaine, Simonetta yn I Medici, Valentine yn Les Huguenots a Fenws yn Tannhäuser. [2]

Bu'n briod ddwywaith. Ei gŵr cyntaf oedd y tenor Antonio Aramburo a'i ail ŵr oedd Paul Milliet, awdur y libreto i opera Jules Massenet Hérodiade yn yr hon bu'n perfformio rhan Salomé ym Monte-Carlo ym 1903 gydag Emma Calvé yn rôl y teitl.

Bu farw yn Dieppe, Seine-Maritime ym 1924

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Laura Macy (gol); The Great Book of Opera Singers tud:2; Gwasg Prifysgol Rhydychen 2008. ISBN:9780195337655
  2. Adini, Ada yn operissimo.com adalwyd 30 Hydref 2018

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fideo YouTube o Ada Adini yn canu D'amor sull'ali rosee o Il trovatore Verdi 1905