Abu al-Qasim
Gwedd
| Abu al-Qasim | |
|---|---|
| Ganwyd | أبو القاسم خلف بن عبَّاس الزهراوي 936 Madinat Al-Zahra |
| Bu farw | 1010 Córdoba |
| Galwedigaeth | llawfeddyg, anatomydd, fferyllydd, athronydd, meddyg |
Ystyrir mai Abu al-Qasim Khalaf ibn al-Abbas Al-Zahrawi (936 – 1013) (Arabeg: أبو القاسم بن خلف بن العباس الزهراوي), meddyg, llawfeddyg, cemegydd, cosmelogydd a gwyddonydd o ddinas Cordoba yn Al-Andalus, a adnabyddir yn y Gorllewin fel Abulcasis, oedd "tad llawfeddygaeth fodern". Ef oedd y llawfeddyg mwyaf yn hanes gwareiddiiad Islam yn yr Oesoedd Canol. Ysgrifennodd sawl testun meddygol cynhwysfawr a ddylanwadodd ar ddatblygiad llawfeddygaeth yn y gwledydd Islamaidd ac yn Ewrop hyd gyfnod y Dadeni Dysg. Ei waith pwysicaf yw'r Kitab al-Tasrif, gwyddoniadur meddygaeth mewn 30 cyfrol. Cafodd ei gyfieithu i Ladin.