Abi Morgan

Oddi ar Wicipedia
Abi Morgan
Ganwyd1968 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Iron Lady Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy 'Primetime' Edit this on Wikidata

Mae Abi Morgan, OBE (a aned ym 1968) yn ddramodydd a sgriptiwr sgrin Gymreig sy'n adnabyddus am ei gwaith ar gyfer y teledu, megis Sex Traffic a The Hour, a'r ffilmiau Brick Lane, The Iron Lady, Shame a Suffragette.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morgan yng Nghaerdydd.[1] Hi yw merch yr actores Pat England a'r cyfarwyddwr theatr Gareth Morgan, a oedd yn gyfarwyddwr Theatr Gulbenkian yn Newcastle upon Tyne (The Northen Stage, bellach). Ysgarodd ei rhieni pan oedd hi yn ei arddegau a threuliodd ei phlentyndod yn symud o gwmpas y wlad tra bod ei mam yn actio mewn theatr un cwmni; dywedodd wrth The Scotsman yn 2010 ei bod wedi mynychu saith ysgol wahanol yn ystod ei phlentyndod.[2]. Ei chwaer yw'r codwr arian ar gyfer yr Unicorn Theatre, Llundain.[3]

Ar ôl uchelgais cychwynnol i ddod yn actores ei hun, penderfynodd fod yn awdur tra bu'n astudio drama a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Caerwysg.[4] Yna cymerodd gwrs ysgrifennu ôl radd yn yr Ysgol Ganolog Llefaredd a Drama.[3]

Gyrfa ysgrifennu[golygu | golygu cod]

Theatr[golygu | golygu cod]

Wedi bod yn swil parthed dangos unrhyw un o'i ysgrifau "i unrhyw un am bum mlynedd", cafodd ei chredyd llwyfan cyntaf yn 1998 gyda Skinned yn Theatr Nuffield, Southampton. Mae hi wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y Theatr Stiwdio'r Royal Exchange Manceinion, Theatr y Royal Lyceum, Traverse Theatre, Caeredin, Theatr Genedlaethol yr Alban a'r Royal Court, Llundain. Enillodd ei ddrama o 2001, Tender ar gyfer Theatr Hampstead enwebiad am wobr "dramodydd mwyaf addawol" yng Ngwobrau Laurence Olivier i'r Theatr yn 2002.

Teledu[golygu | golygu cod]

Enillodd Morgan ei chredyd ysgrifennu teledu cyntaf ym 1998 ar ddrama gyfres ITV Peak Practice, dilynwyd hynny gyda'r ddrama teledu My Fragile Heart (2000) a drama i BBC2 Murder (2002), gyda Julie Walters yn serennu.[3]

Fe'i comisiynwyd i ysgrifennu'r ddrama unigol Sex Traffic ar gyfer Channel 4 yn 2004, am ferch yn ei arddegau a chafodd ei masnachu o'r Balcanau i Brydain. Enillodd y ddrama hon, a gyfarwyddwyd gan David Yates, wobr BAFTA 2005 ar gyfer y Gyfres Drama Gorau. Ers hynny mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu sengl ar gyfer teledu, gan gynnwys Tsunami: The Aftermath (2006), White Girl, rhan o'r gyfres White (2008) a Royal Wedding (2010), sy'n dilyn Priodas Frenhinol 1981 trwy ddilyn y digwyddiadau a gynhalid mewn pentref mwyngloddio bach Cymreig. Mae ei gwaith teledu hefyd yn cynnwys ysgrifennu Birdsong, addasiad teledu dwy ran o nofel Sebastian Faulks o'r un teitl.

Ysgrifennodd Morgan y ddrama gyfreithiol The Split, am fywydau preifat a phroffesiynol cyfreithwyr ysgariad, a ddangoswyd gyntaf ar BBC1 ym mis Ebrill 2018

The Hour[golygu | golygu cod]

Cyfres ddrama barhaus gyntaf Morgan ar gyfer y teledu oedd The Hour (2011), a osodwyd mewn ystafell newyddion y BBC yn ystod Argyfwng Suez 1956. Fe'i comisiynwyd ar gyfer ail gyfres,[4] ond cafodd ei ganslo ar ôl i'r ail gyfres gael ei drosglwyddo, roedd ei gynulleidfa chwarter yn is nag i'r gyfres gyntaf.[1] Yn 2013, enillodd Wobr Emmy Primetime ar gyfer Ysgrifennu Eithriadol mewn Cyfres fach, Ffilm, neu Raglen Drama Arbennig am The Hour,[1] roedd y gyfres wedi ei enwebu, yn aflwyddiannus yn 2012 hefyd.[5][6]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Mae Morgan hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer sinema: cafodd ei addasiad yn 2007 o nofel Monica Ali, Brick Lane, ei chanmol gan y beirniaid, ond creodd ddadleuon - bu rhai o bobl Bengal oedd yn byw ar Brick Lane wedi honni bod y ffilm yn ddifenwol" a phenderfynwyd canslo perfformiad ffilm frenhinol a oedd wedi'i gynllunio.[3] Ei ffilm nesaf oedd The Iron Lady, a oedd yn serennu Meryl Streep fel Margaret Thatcher. Yn fuan wedyn sgriptiodd y ffilm Shame, ar y cyd â Steve McQueen.[4] Enillodd ei gwaith ar The Iron Lady wobr BAFTA iddi am y Sgript Ffilm Wreiddiol Gorau,[7] tra enillodd ei gwaith ar Shame Wobr BAFTA iddi am Ffilm Brydeinig Eithriadol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Morgan yn byw yng Ngogledd Llundain gyda'i gŵr, yr actor Jacob Krichefski, a'u dau blentyn, Jesse a Mabel.[8]

Dyfarnwyd OBE i Morgan yn Anrhydedd Pen-blwydd 2018.

Gweithiau dethol[golygu | golygu cod]

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • Skinned (1997)
  • Sleeping Around (1998) – ar y cyd â Mark Ravenhill, Stephen Greenhorn a Hilary Fannin
  • Fast Food (1999)
  • Splendour (2000)
  • Tiny Dynamite (2001)
  • Tender (2001)
  • Monster Mum (2005)
  • Fugee (2008)
  • Chain Play – Production II – ar y cyd â Neil LaBute, Mike Poulton a Tanya Ronder
  • The Night is Darkest Before the Dawn (2009), fel rhan o The Great Game: Afghanistan
  • Lovesong (2011)
  • 27 (2011)
  • The Mistress Contract (2014)[10]

Sgriptiau ffilm[golygu | golygu cod]

  • Brick Lane (2007)
  • The Iron Lady (2011)
  • Shame (2011)
  • The Invisible Woman (2013)
  • Suffragette (2015)

Sgriptiau teledu[golygu | golygu cod]

  • My Fragile Heart (2000)
  • Murder (2002)
  • Sex Traffic (2004)
  • Tsunami: The Aftermath (2006)
  • White Girl
  • Royal Wedding (2010)
  • The Hour (2011)
  • Birdsong (2012)
  • River (2015)
  • The Split (2018)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]