Aberbechan

Oddi ar Wicipedia
Aberbechan
Mathplasty, adeilad â ffrâm goed Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.54°N 3.27°W Edit this on Wikidata
Map

Plasdy ym Maldwyn, Powys yw Aberbechan a fu am ganrifoedd yn gartref i deulu a noddai feirdd gogledd Powys. Saif ym mhlwyf Llanllwchaearn.

Noddi beirdd[golygu | golygu cod]

Roedd y teulu yn ddisgynyddion i Feilir Gryg, cyndad teuluoedd Gregynog a'r Faenor, Aberriw. Ceir cerddi gan feirdd a noddid gan Morys ab Owain (m. 1568) a'i dad yntau hefyd.

Mae'r bardd Ieuan Tew yn cymharu llys Aberbechan â goleuni llusern (lawnter) am ei fod mor uchel a disglair: 'Lawnter goleuder gwledydd'.[1]

Un arall o'r beirdd a gysylltir ag Aberbechan yw Siôn Ceri (Siôn ab y Bedo ap Deio Fychan, bl. diwedd y 15g - 1540au), o gwmwd Ceri. Erys ar glawr cywydd i'r Grog yn Aberhonddu ganddo ar gais Rhys ap Morys, mab Morys ab Owain, o Aberbechan.[2]

Roedd Rhys yn noddi beirdd eraill hefyd, yn cynnwys Huw Arwystli a Syr Ieuan o Garno. Parhaodd y traddodiad nawdd ar yr aelwyd i hanner cyntaf yr 16g, gan Thomas ap Rhys a'i ferch Gwen (m. 1639), gwraig Syr Rhisiart Prys o Gogerddan.

Plas Aberbechan yn y 1790au

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 2.
  2. A. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Siôn Ceri (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth, 1996), cerdd 54.