Sandwich
Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Dover |
Poblogaeth | 4,850 |
Gefeilldref/i | Ronse, Sonsbeck, Honfleur |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 859 km² |
Cyfesurynnau | 51.2747°N 1.3389°E |
Cod SYG | E04004919 |
Cod OS | TR335585 |
Cod post | CT13 |
Tref hanesyddol a phlwyf sifil yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Sandwich.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dover.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,985.[2]
Roedd yn un o'r Pum Porthladd (Cinque Ports) ac mae dal nifer o adeiladau canoloesol i'w cael yno. Er porth bwysig oedd hi yn y gorffennol, fe'i leolir dwy filltir o'r môr erbyn hyn, â'i chanolfan hanesyddol cadwedig.[3] Mae Caerdydd 315.5 km i ffwrdd o Sandwich ac mae Llundain yn 104.5 km. Y ddinas agosaf ydy Caergaint sy'n 19 km i ffwrdd.
Gwasanaethir y dref gan orsaf reilffordd Sandwich.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyn i Sandwich ddod yn Cinque Port, roedd tref Sacson hynafol Stonar eisoes wedi ei sefydlu ac wedi ei leoli ar lan cyferbyn a Sandwich ym moryd Wantsum, wrth geg Afon Stour. Roedd y dref yn weddol bwysig hyd yr 14g. Mae olion caer Rufeinig mawr Richborough gerllaw hefyd.
Ar 21 Mai 1216, glaniodd Tywysog Louis o Ffrainc yn Sandwich er mwyn cefnogi rhyfel y barwniaid yn erbyn John, brenin Lloegr.
Yn 1255, fe lanwyd yr Eliffant caeth cyntaf yn Lloegr, yng nghei Sandwich, anfonwyd fel anrheg gan frenin Ffrainc i Harri III, brenin Lloegr, a cymerwyd yr eliffant oddiyno i sŵ y brenin yn Nhŵr Llundain.[4]
Pedair mlynedd ar ôl heddwch anesmwyth yn Lloegr, ar 28 Awst 1457, roedd y brenin yn llywodraethu teyrnas a oedd yn diflannu, roedd yn barwniaid ffiwdal yn ymddwyn fel arglwyddi yn rheoli'r boblogaeth yng ngogledd a gorllewin y deyrnas. Fe gymerodd y Ffrancod fantais o'r sefyllfa gan anfon mintai ymosod i Gaint, a llosgi'r rhan fwyaf o Sandwich. Daeth tua 4,000 o ddynion o Honfleur, o dan arweinyddiaeth Marshal de Breze, i'r lan i anrheithio'r dref, gan lofruddio'r maer yn y broses, sef John Drury. Sefydlwyd traddodiad ers hynny sy'n dal i barhau, sef bod maer Sandwich yn gwisgo mantell ddu yn galaru'r digwyddiad.
Yn ddiweddarach, enillodd Sandwich yn sylweddol o'r sgiliau a ddaeth i'r dref gyda'r nifer fawr o anheddwyr Iseldireg, a dderbyniodd yr hawl i anheddu yno gan Elisabeth I, brenhines Lloegr yn 1560. Daeth yr anheddwyr a thechnegau garddio marchnad gyda nhw, ac roeddent yn gyfrifol am dyfu'r seleri cyntaf yn Lloegr. Daeth y ffoaduriaid Huguenot a nifer o dechnegau pensaerniaeth Iseldireg gyda nhw hefyd, ac mae hynny gymaint yn rhan o Gaint heddiw a bythynod to gwellt. Mewnforwyd technegau cynhyrchu sidan yn ogystal, gan wella diwydiant defnydd Caint.
Enw'r dref
[golygu | golygu cod]Ffurf gynharaf Eingl-Sacsoneg yr enw hyd y gwyddys, oedd Sond-wic. Ystyr yr enw felly yw tref farchnad ar dir dywodlyd.
Mae'r dref yn rhannu ei enw yn Saesneg â phryd hawdd o fwyd, sef sandwich, (neu brechdan yn Gymraeg). Nid oes â'r dref ddim a wnelo â brechdanau, sydd wedi cael yr enw o ddyfeisydd honedig y math o fwyd, sef y 4ydd Iarll Sandwich.
Melinau Gwynt
[golygu | golygu cod]Roedd gan Sandwich o leiaf wyth melin wynt dros y canrifoedd. Mae'r cyfeiriad cynharaf at felin yn dyddio o 1608.[5]
- "White Mill"
White Mill yw'r unig felin sydd wedi goroesi. Adeiladwyd ym 1760, a gweithwyd gan wynt hyd 1929, ac yna gan fodur hyd 1957. Mae wedi cael ei atgyweirio fel amgueddfa werin a threftadaeth erbyn heddiw.
- "Black Mill"
Melin gyrchu a losgwyd i lawr tua 1910.[6].
- Melin Post
Safodd melin post ger y Black Mill, a gweithwyd nhw ar y cyd.[6]
- Melinoedd Millwall
Adnabyddwyd y felin gyrchu ar y Millwall hefyd fel y "Town Mill". Llosgwyd hwnnw i lawr, a gwyddwn yr adeiladwyd melin arall o ryw fath yn Millwall.[6]
- Melin wynt
Safodd y chweched melin wynt i'r gogledd orllewin o Sandwich, ac i'r gorllewin o'r rheilffordd. Roedd yn ffurfio grŵp o dri melin ynghyd â Black Mill a'r melin post.[6]
- "New Cut"
Nodwyd dau felin wynt yn New Cut, ar foryd y Stour. gan Hasted. Mae'n debygol mai melinau pwmpio oeddent, yn gysylltiedig gyda'r gweithfeydd halen a oedd yno yn yr 18g hwyr.[5]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Barbican
- Fisher Gate
- Guildhall
- Melin Gwyn
- Tafarn Admiral Owen
- The Salutation
- Ysbyty Sant Tomos
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 29 Mehefin 2018
- ↑ City Population; adalwyd 11 Mai 2020
- ↑ "It had just closed up, and now it was preseved, two miles from the sea, in its own rich silt." Paul Theroux, The Kingdom by the Sea (Llundain, 1983), t.33.
- ↑ Alan Major, Hidden Kent (Newbury, 1994)
- ↑ 5.0 5.1 Jenny West, The Windmills of Kent (Llundain, 1973), t.68-71
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 William Coles Finch, Watermills and Windmills (Llundain, 1933), t.271-72
Dinas
Caergaint
Trefi
Ashford ·
Broadstairs ·
Chatham ·
Cranbrook ·
Dartford ·
Deal ·
Dover ·
Edenbridge ·
Faversham ·
Folkestone ·
Fordwich ·
Gillingham ·
Gravesend ·
Hawkinge ·
Herne Bay ·
Hythe ·
Lydd ·
Maidstone ·
Margate ·
Minster-on-Sea ·
New Romney ·
Northfleet ·
Paddock Wood ·
Queenborough ·
Rainham ·
Ramsgate ·
Rochester ·
Royal Tunbridge Wells ·
Sandwich ·
Sevenoaks ·
Sheerness ·
Sittingbourne ·
Snodland ·
Southborough ·
Strood ·
Swanley ·
Swanscombe ·
Tenterden ·
Tonbridge ·
Walmer ·
West Malling ·
Westerham ·
Westgate-on-Sea ·
Whitstable