Y Pum Porthladd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cinque Ports towns flag.svg
Baner y Pum Porthladd
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolconffederasiwn Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Dechrau/Sefydlu1155 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHastings, New Romney, Hythe, Dover, Sandwich, Rye Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cinqueports.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cydffederasiwn hanesyddol o drefi arfordirol yng Nghaint a Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw'r Pum Porthladd.[1] Mae'r enw Saesneg, Cinque Ports (ynganiad /sɪŋk pɔrts /) yn tarddu o'r Ffrangeg Normanaidd. Ffurfiwyd y gynghrair yn wreiddiol at ddibenion milwrol a masnachoch, ond bellach mae'n hollol seremonïol. Lleolir y porthladdoedd ar lan dde-orllewinol y Môr Udd, lle mae'r fordaith i dir mawr Ewrop yn fyr.

Roedd y pum tref wreiddiol fel a ganlyn (o'r gorllewin i'r dwyrain):

Fodd bynnag, mae'r enw "Pum Porthladd" braidd yn gamarweiniol. Yn yr Oesoedd Canol roedd y cydffederasiwn yn ymestyn ar draws cyfanswm o 42 o drefi a phentrefi (mor bell i'r gorllewin â Seaford yn Sussex, ac mor bell i'r gogledd â Brightlingsea yn Essex). Rhestrwyd rhyw 23 ohonynt ym Magna Carta (1297).

Roedd hefyd ddwy "dref hynafol" (ancient towns), fel y'u gelwir, yn y cydffederasiwn:

Ar y dechrau, roedd Rye yn is-borthladd i New Romney, ond enillodd Rye statws llawn fel un o'r Pum Porthladd ar ôl i New Romney gael ei ddifrodi gan storm fawr 1287; siltiodd yr harbwr yno, a symudodd Afon Rother yn agosach at Rye. O ganlyniad, daeth New Romney yn llai pwysig o lawer erbyn y 14g.

Yn ogystal, roedd saith "aelod" (limbs), sef trefi â chysylltiadau agos â'r prif drefi:

Mae'n debyg i'r pum porthladd gwreiddiol ddod at ei gilydd yn ystod teyrnasiad Edward y Cyffeswr (1042–66) er mwyn amddiffyn yr arfordir a'r Môr Udd. Yn gyfnewid am ddarparu llongau a dynion ar gyfer gwasanaeth y brenin derbyniodd y porthladdoedd amryw freintiau. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd Lloegr yn 1066, cynyddodd eu pwysigrwydd. Rhoddwyd Siarter Brenhinol i'r porthladdoedd yn 1155, a chyrhaeddasant eu hanterth yn y 13g a'r 14g. Hyd at yr adeg honno roeddent yn darparu cnewyllyn y llynges frenhinol. Dirywiasant wrth i'r môr erydu'r arfordir mewn rhai mannau (Hastings) ac wrth i'r silt gronni mewn lleoedd eraill (New Romney, Rye, Hythe, Sandwich). Heddiw dim ond Dover sy'n dal i fod yn borthladd o unrhyw bwys.

Map o'r Pum Porthladd (a ddangosir mewn hirgrynion) a'u haelodau (a ddangosir mewn petryalau)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. Cinque

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]