Afon Stour, Caint
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.313217°N 1.364409°E |
Tarddiad | Ashford |
Aber | Bae Pegwell |
Llednentydd | East Stour, Aylesford Stream, Kennington Stream, Afon Wantsum, Little Stour, Ruckinge Dyke, Whitehall Dyke, Brook Stream |
Hyd | 80.1 cilometr |
Afon yn Nwyrain Sussex a Chaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Stour. Mae'n codi ger Ashford, ac yn llifo am 80 km (50 mi) i Gulfor Dover ym Mae Pegwell, rhwng Ramsgate a Sandwich. Mae ganddi dair prif isafon a llawer o lednentydd llai.
Yn ei rhannau uchaf, uwchben Plucks Gutter, lle mae Little Stour yn ymuno â hi, gelwir yr afon yn Great Stour. Yn ei rhannau isaf, sy'n llanwol, mae sianel, y Stonar Cut, yn cwtogi dolen fawr yn yr afon naturiol.