Aber Dysynni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfesurynnau: 52°36′08″N 4°05′47″W / 52.6023°N 4.0964°W / 52.6023; -4.0964

Lleoliad Aber Dysynni: tua milltir i'r gogledd o Dywyn.
Y llyn, i gyfeiriad Craig y Deryn.

Aber neu geg Afon Dysynni ydy Aber Dysynni,[1] sy'n ffurfio llyn ychydig cyn i'r dŵr lifo i Fae Ceredigion tua milltir i'r gogledd-orllewin o Dywyn, Gwynedd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Dysynni.

Mae'r lagŵn o ddŵr hallt wedi'i gofrestr fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n hafan diogel i adar y gwlyptir o bob math.[2][3] Ar y traeth ceir Môr-wenoliaid pigddu (Thalasseus sandvicensis), Hwyaid mwythblu (Somateria mollissima) a Chwtiaid y traeth (Arenaria interpres). O gwmpas y llyn ei hun gellir gweld hebogiaid tramor, bwncathod a barcudiaid cochion. Mae'r llyn hefyd yn boblogaiidd gan y canwrwyr a'r sgotwyr gan fod yma digonedd o Fingrynion barfog (Mullus barbatue) a Draenogiaid môr (Dicentrarchus labrax).[4]

Yn y 18fed a'r 19g defnyddiwyd yr aber gan longau hwyliau bychan i gludo mawn o fawnogydd a rhostiroedd cyfagos ond gan i raean ffurfio wrth geg yr aber crewyd lagŵn, a gan i'r dyfnder newid, daeth yn rhy fâs i longau a daeth y gwaith i ben.[5]

Gwlyptiroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng Nghymru mae rhai o'r gwlyptiroedd iseldir gorau yn Ewrop, mae 11 ohonynt wedi cael eu diogelu fel safleoedd 'Natura 2000'. Ar un adeg roedd gwlyptiroedd yn gyffredin ond mae draenio ac amaethyddiaeth wedi lleihau'r nifer o gorsydd sydd ar ôl. Mae'r amodau asidig a gwlyb yn creu mawn sy'n cronni dros ddegau o filoedd o flynyddoedd, gan gloi carbon i ffwrdd a'n helpu i leihau nwyon tŷ gwydr, ond gall difrod i'r cynefinoedd hyn ryddhau'r carbon hwn ac achosi iddynt sychu. Maent hefyd yn baradwys i fywyd gwyllt ac yn gyfoethog mewn planhigion, pryfed ac adar. Felly mae'n bwysig rheoli'r cynefinoedd hyn yn ddiogel i amddiffyn y bywyd gwyllt ac elwa o'r amddiffyniad rhag llifogydd a newid yn yr hinsawdd.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; adalwyd 13 Ebrill 2016
  2. "Birdwatching in Snowdonia". Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2009.
  3. CCW - Cofrestriad
  4. www.walesdirectory.co.uk; adalwyd 14 Ebrill 2016.
  5. Rolt, L.T.C. Railway Adventure. p. 3. ISBN 0-330-02783-2.
  6. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru.