Cwtiad y traeth
Gwedd
| Cwtiad y traeth | |
|---|---|
| Oedolyn mewn plu haf yn Fflorida | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Scolopacidae |
| Genws: | Arenaria |
| Rhywogaeth: | A. interpres |
| Enw deuenwol | |
| Arenaria interpres (Linnaeus, 1758) | |
Aderyn rhydiol o deulu'r Scolopacidae yw cwtiad y traeth (Arenaria interpres; hefyd hutan y dŵr, hutan y môr). Mae'n nythu ar y twndra, ger y môr fel arfer, yn rhanbarthau arctig Ewrasia a Gogledd America.[1] Mae'n treulio'r gaeaf ar hyd arfordiroedd ar draws y rhan fwyaf o'r byd; mae i’w weld yn aml ar arfordiroedd ac aberoedd Cymru. Mae'n bwydo ar bryfed, cramenogion, molysgiaid ac infertebratau eraill gan fwyaf.[2]
Mae'n 22–24 cm o hyd ac mae'n pwyso 85–150 g.[2] Yn ystod y tymor nythu, mae'n ddu ac orenfrown ar y cefn ac yn ddu a gwyn ar y pen a'r fron. Mae'n dywyllach ac yn llai lliwgar yn ystod y gaeaf.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) BTO BirdFacts: Turnstone (Arenaria interpres)
- (Saesneg) Internet Bird Collection: Ruddy Turnstone (Arenaria interpres) Archifwyd 2013-11-20 yn y Peiriant Wayback
