11.12.82

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan Iwan Llwyd (1957–2010) yw "11.12.82" sydd yn ymwneud â chofio'r saith can mlynedd ers marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd cyfarfod coffa ar Ddydd Sadwrn, 11 Rhagfyr 1982, wrth y gofeb yng Nghilmeri i gofio'r saith can mlynedd ers marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog brodorol olaf Cymru). Cafodd ei eni tua 1225 a lladdwyd ef gan y Saeson ger Pont Irfon i'r gorllewin o Lanfair-ym-Muallt. Gwnaeth Llywelyn waedu i farwolaeth a danfonwyd ei ben at y Brenin Edward I yn Llundain. Mae cofeb iddo ger pentref Cilmeri lle mae cenedlaetholwyr Cymreig yn mynd i'w gweld.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Yn y pennill cyntaf, dywed y bardd ei bod hi'n ddiwrnod rhewllyd o oer, a chymylau llwyd yn yr awyr pan ddaeth rhai cannoedd o bobl ynghyd i gofio am Llywelyn. Roedd hyd yn oed y dail fel pe baent yn galaru a cholli dagrau ("a'r dail yn diferu atgofion"). Mae byd natur wedi aros yn debyg i'r hyn yr oedd, ond rydyn ni fel cenedl y Cymry wedi newid cryn dipyn dros y saith canrif. Mae'r bardd yn defnyddio byd natur yn gefndir i'r gerdd, ac mae byd natur yn adlewyrchu ei deimladau ef am y sefyllfa sy'n ein hwynebu.

Yn yr ail bennill, yr unig beth sydd gennym i ymfalchïo ynddo yw ein gorffennol ("gorchestion hen oesau"). Rydyn ni wedi treulio'r saith canrif ddiwethaf yn edrych yn ôl yn hiraethus ar ein gorffennol. Mae'r disgrifiad yn y llinell "a'r dydd yn gymylau gwelwon" yn ychwanegu at y teimlad priddglwyfus hwn ac yn dangos natur felpetai'n cydymdeimlo gyda'r sefyllfa druenus.

Yn y trydydd pennill, dywed y bardd ers marwolaeth Llywelyn, ein bod ni wedi bod yn "sefyll ar erchwyn y dibyn"—rydyn ni mewn perygl o golli ein hiaith a'n hunaniaeth. Mae fel petai ein bod ni wedi cael ein parlysu ac yn methu gwneud dim i achub y sefyllfa gan fod ein "traed bron fferru'n eu hunfan".

Yn y pedwerydd pennill, rydyn ni wedi saith canrif yn "cyfri'r colledion yn dawel". Mae'r ansoddair "tawel" yn bwysig yn y pennill oherwydd awgryma'r bardd nad ydyn ni wedi codi ein lleisiau er mwyn newid y drefn, dim ond "edrych i'r gorwel yn ddistaw".

Yn y pumed pennill, pwysleisia'r bardd pa mor dawel ac ufudd bu'r Cymry yn ystod y saith can mlynedd sydd wedi gwibio heibio. Ond mae'r llinell olaf yn y gerdd, "a'r awel ar rewi llif Irfon", yn awgrymu'n gryf ei bod hi bron ar ben arnom—prin iawn yw'r amser sydd gennym i newid yr amgylchiadau. Mae "fferru" a "r[h]ewi" yn cyfeirio at ein diffyg ymdrech i wneud rhywbeth er mwyn amddiffyn ein treftadaeth.

Ond, ceir newid yn y pennill olaf: yn ogystal â llinell ychwanegol (pedair yn lle tair fel y gweddill) yn y chweched pennill ceir newid amlwg yn y naws. Chwalodd bloedd y baban ar y distawrwydd llethol, a "thoddi'r gaeafddydd" sy'n cyferbynnu gyda delwedd y rhew yn y pedwerydd pennill. Ni ellir anwybyddu bloedd baban gan ei bod mor uchel. Defnyddia'r bardd y baban fel symbol o "her canrif newydd"—y to ifanc sy'n codi, y rhai sy'n fodlon codi eu lleisiau er mwyn dychryn ac ysgwyd y drefn.

Mesur[golygu | golygu cod]

Nid oes mesur pendant i'r gerdd, ond mae rhywfaint o batrwm o ran rhythm, a cheir odl fewnol rhwng yr ail a'r drydedd linell (er enghraifft, "Cilmeri" a "diferu", "oesau" a "gymylau").

Arddull[golygu | golygu cod]

Ceir "saith canrif" ei ailadrodd er mwyn pwysleisio faint o amser yn union sydd wedi mynd heibio ers i'r Cymry ddioddef yn dawel. Pwysleisia hefyd y rheswm am y cyfarfod yng Nghilmeri er mwyn coffáu saith canrif wedi marwolaeth Llywelyn.

Delwedd yw math o ddarlun trosiadol a ddefnyddir i gyfleu syniad mewn barddoniaeth. Yn y gerdd hon, defnyddia Iwan Llwyd fyd natur i greu delwedd estynedig. Mae'r disgrifiadau o fyd natur yn adlewyrchu anobaith a sefyllfa dywyll y Cymry. Sylwer ar linell olaf pob pennill namyn y chweched:

"a'r dail yn diferu atgofion"
"a'r dydd yn gymylau gwelwon"
"a'n traed bron fferru'n eu hunfan"
"ac edrych i'r gorwel yn ddistaw"
"a'r awel ar rewi Irfon"

Ceir cic neu ergyd i'r darllenydd yn y llinellau olaf hyn. Yn y pennill olaf, mae'r naws a'r awyrgylch yn newid yn y pennill olaf a theimlad o obaith am y dyfodol yn amlwg gyda delwedd y baban.

Neges ac agwedd y bardd[golygu | golygu cod]

Mawr oedd y galar ar ôl colli'r Tywysog Llywelyn. Roedd y golled yn enfawr a galarodd y beirdd yn yr oes honno. Ysbrydolwyd y bardd Iwan Llwyd i ysgrifennu'r gerdd oherwydd y diwrnod i gofio Llywelyn saith canrif ar ôl ei farwolaeth. Disgrifia pa mor oer a chymylog oedd hi yn ystod y diwrnod o gofio Llywelyn, a defnyddiodd natur mewn ffordd gelfydd i gydymdeimlo gyda'r Cymry. Ond cawn obaith ar y diwedd pan glywn floedd y baban bach sy'n dangos dyfodol i'r Cymry a Chymru. Mae angen gweithredu yn hytrach nag eistedd yn ôl yn ddistaw a thawel. Mae'r dyfodol yn ein dwylo ni, a rhaid ymladd dros ein gwlad a'i thraddodiadau.