Àlex Hinojo Sánchez
Àlex Hinojo Sánchez | |
---|---|
Llais | Àlex Hinojo (veu).ogg |
Ganwyd | 13 Medi 1980 Barcelona |
Man preswyl | Sabadell |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd diwylliannol, Wicimediwr Preswyl, Wicimediwr Preswyl, Q112879913 |
Swydd | cyfarwyddwr, project director |
Cyflogwr |
|
Gwefan | http://www.alexhinojo.cat |
Rheolwr Prosiect gyda Sefydliad Wicimedia ydy Alex Hinojo Sánchez (g. Barcelona, 1980), sy'n adnabyddus ar Wicipedia fel Kippelboy. Mae'n flaenllaw iawn gyda GLAM-Wici ac yn un o arweinwyr Amical Wikimedia sef Wicipedia Catalwnia. Yn ei rôl mae'n llysgennad diwylliant Wicipedia Catalwnia o fewn amgueddfeydd y wlad, a sefydliadau diwylliannol eraill. GLAM-Wiki yw'r prosiect Wicimedia sy'n ymwneud â 'Galeriau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd, Archifdai a Mwy'.[1]
Rheolaeth busnes oedd ei faes academaidd cyn troi i fyd y wici, ac mae ganddo hefyd radd mewn astudiaethau amgueddfaol ac ail radd mewn rheolaeth diwylliannol.
Wedi iddo orffen ym Mhrifysgol Universitat Oberta de Catalunya bu'n gweithio gyda @CatalanMuseums, Europeana a Museu Nacional d'Art de Catalunya (MNAC).[2][3]