Mark Stacey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 06:01, 20 Rhagfyr 2018
Mark Stacey | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1964 ![]() Castell-nedd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwerthwr hen greiriau ![]() |
Mae Mark Stacey (a aned 23 Medi 1964) yn brisiwr ac arwerthwr Cymreig. Mae hefyd yn bersonoliaeth deledu sy'n ymddangos yn rheolaidd ar raglenni'r BBC fel arbenigwr hen greiriau.
Bywgraffiad a gyrfa broffesiynol
Ganwyd Stacey yng Nghastell-nedd. [1] Symudodd i Lundain a bu'n gweithio ar gyfer tai ocsiwn Bonhams a Sotheby. Yna daeth yn bennaeth y Celfyddydau Addurnol ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr yn Hamptons / Dreweatt Neate Fine Art. [2]
Mae Stacey wedi ymddangos yn rheolaidd fel arbenigwr hen greiriau ar raglenni'r BBC, Bargain Hunt, Flog It!, Put Your Money Where Your Mouth Is a'r Antiques Road Trip. [3] [4] Ym mis Mehefin 2009, cymerodd Stacey ran mewn cyfweliad ysgafn ar raglen amser cinio'r BBC Daily Politics lle gofynnwyd am ei farn ar werth eitemau a oedd yn eiddo i wleidyddion, yn sgil sgandal treuliau Senedd y DU. [5]
Yn 2014 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y rhaglen cwis Pointless Celebrities.
Yn 2011 agorodd Stacey siop creiriau yn Kemptown, Brighton, Dwyrain Sussex. [6]
Yn 2014 daeth Stacey yn arwerthwr a phrisiwr gydag arwerthwyr Reeman Dansie yn Colchester, Essex[7] a daeth o hyd i sarcoffagws hynafol o'r Aifft, yn gorwedd ar wall tŷ yn Essex, a werthodd am £ 13,500. [8]
Bywyd personol
Mae gan Stacey un brawd a dwy chwaer. [1] Bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol preswyl cyn mynd i'r fasnach hen greiriau. [6]
Mae Mark yn hoyw ac yn ymgyrchydd amlwg dros hawliau LHDT. Mae'n byw efo partner Sbaenaidd o'r enw Santiago[8][9]
Ffug adroddiadau am ei farwolaeth
Ar 20 Mehefin, 2015, cyhoeddodd The Vancouver Courier marwnad ar gyfer gŵr o'r enw Mark Stacey. Arweiniodd hyn at nifer o negeseuon o gydymdeimlad a thristwch am farwolaeth yr arbenigwr hen greiriau Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol cyn canfod mae gŵr arall oedd yn rhannu'r un enw oedd yr ymadawedig. [8] Bu ffug pryderon am ei fywyd eto yn 2017 wedi adroddiadau yn y wasg bod gŵr arall o'r enw Mark Stacey wedi mynd ar goll. [9]
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "Bargain Hunt and Flog It Antiques Expert". Wayback. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2011. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ "About Mark". Mark D Stacey. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ Bate, Karen (16th Hydref 2011). "Two antiques dealers to star on TV". Salisbury Journal. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Rahman, Sophia (10th Ionawr 2013). "East Lancashire antiques dealers step into the TV spotlight". Lancashire Telegraph. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Bath plug, duck house or trouser press?". BBC Daily Politics. 10 Mehefin 2009. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ 6.0 6.1 "Interview with Flog It! presenter Mark Stacey". Sussex Life. 20 Medi 2012. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Egyptian sarcophagus found in Essex home sells for £13,500". BBC News. 27 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ 8.0 8.1 Hollywood Mask 3 hydref 2018, Mark Stacey Hints Married Life! Talks Partner, Gay Support Amid Death Rumors adalwyd 20 Rhagfyr 2018
- ↑ 9.0 9.1 Ramp Up 11 Gorffennaf 2018 Mark Stacey, Bargain Hunt Partner Now! Close To Death But Very Alive adalwyd 20 Rhagfyr 2018