Mark Stacey

Oddi ar Wicipedia
Mark Stacey
Ganwyd23 Medi 1964 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwerthwr hen greiriau Edit this on Wikidata

Mae Mark Stacey (a aned 23 Medi 1964) yn brisiwr ac arwerthwr Cymreig. Mae hefyd yn bersonoliaeth deledu sy'n ymddangos yn rheolaidd ar raglenni'r BBC fel arbenigwr hen greiriau.

Bywgraffiad a gyrfa broffesiynol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Stacey yng Nghastell-nedd.[1] Symudodd i Lundain a bu'n gweithio ar gyfer tai ocsiwn Bonhams a Sotheby. Yna daeth yn bennaeth y Celfyddydau Addurnol ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr yn Hamptons / Dreweatt Neate Fine Art.[2]

Mae Stacey wedi ymddangos yn rheolaidd fel arbenigwr hen greiriau ar raglenni'r BBC, Bargain Hunt, Flog It!,[3] Put Your Money Where Your Mouth Is a'r Antiques Road Trip.[4][5] Ym mis Mehefin 2009, cymerodd Stacey ran mewn cyfweliad ysgafn ar raglen amser cinio'r BBC Daily Politics lle gofynnwyd am ei farn ar werth eitemau a oedd yn eiddo i wleidyddion, yn sgil sgandal treuliau Senedd y DU.[6]

Yn 2014 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y rhaglen cwis Pointless Celebrities.[7]

Yn 2011 agorodd Stacey siop creiriau yn Kemptown, Brighton, Dwyrain Sussex.[8]

Yn 2014 daeth Stacey yn arwerthwr a phrisiwr gydag arwerthwyr Reeman Dansie yn Colchester, Essex a daeth o hyd i sarcoffagws hynafol o'r Aifft, yn gorwedd ar wall tŷ yn Essex, a werthodd am £ 13,500.[9]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae gan Stacey un brawd a dwy chwaer.[1] Bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol preswyl cyn mynd i'r fasnach hen greiriau.[8]

Mae Mark yn hoyw ac yn ymgyrchydd amlwg dros hawliau LHDT. Mae'n byw efo partner Sbaenaidd o'r enw Santiago[10][11]

Ffug adroddiadau am ei farwolaeth[golygu | golygu cod]

Ar 20 Mehefin, 2015, cyhoeddodd The Vancouver Courier coflith ar gyfer gŵr o'r enw Mark Stacey. Arweiniodd hyn at nifer o negeseuon o gydymdeimlad a thristwch am farwolaeth yr arbenigwr hen greiriau Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol cyn canfod mae gŵr arall oedd yn rhannu'r un enw oedd yr ymadawedig.[10] Bu ffug pryderon am ei fywyd eto yn 2017 wedi adroddiadau yn y wasg bod gŵr arall o'r enw Mark Stacey wedi mynd ar goll.[11]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Bargain Hunt and Flog It Antiques Expert". Wayback. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2011. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  2. "About Mark". Mark D Stacey. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  3. Gwfan Flog It! BBC adalwyd 20 Rhagfyr 2018
  4. Bate, Karen (16 Hydref 2011). "Two antiques dealers to star on TV". Salisbury Journal. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  5. Rahman, Sophia (10 Ionawr 2013). "East Lancashire antiques dealers step into the TV spotlight". Lancashire Telegraph. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  6. "Bath plug, duck house or trouser press?". BBC Daily Politics. 10 Mehefin 2009. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  7. Mark Stacey ar IMDb
  8. 8.0 8.1 "Interview with Flog It! presenter Mark Stacey". Sussex Life. 20 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-13. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  9. "Egyptian sarcophagus found in Essex home sells for £13,500". BBC News. 27 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  10. 10.0 10.1 Hollywood Mask 3 Hydref 2018, Mark Stacey Hints Married Life! Talks Partner, Gay Support Amid Death Rumors adalwyd 20 Rhagfyr 2018
  11. 11.0 11.1 Ramp Up 11 Gorffennaf 2018 Mark Stacey, Bargain Hunt Partner Now! Close To Death But Very Alive adalwyd 20 Rhagfyr 2018