Ysgol Uwchradd Llanrhymni
| Ysgol Uwchradd Llanrhymni | |
|---|---|
| Llanrumney High School | |
| Adeiladau Ysgol Uwchradd Llanrhymni | |
| Arwyddair | Educating for life[1] |
| Sefydlwyd | 1950au |
| Math | Uwchradd, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Saesneg |
| Pennaeth | Don Barnfield |
| Lleoliad | Ball Road, Llanrhymni, Caerdydd, Cymru, CF3 4YW |
| AALl | Cyngor Caerdydd |
| Disgyblion | 647 (2006)[1] |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–16 |
| Gwefan | http://www.llanrumney.cardiff.sch.uk |
Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Tredelerch (Saesneg: Llanrumney High School). Y prifathro presennol ydy Mr Don Barnfield.[2]
Mae'n gwasanaethu ardaloedd Llanrhymni, Pentwyn a Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd, agorwyd yn yr 1950au ynghyd ag Ysgol Uwchradd Tredelerch. Mae'n ysgol gymysg ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 16 oed. Roedd 647 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2006, i gymharu â 774 yn 2000. Daeth 4% ohonynt o gefndir lleiafrif ethnig.[1]
Arwyddair yr ysgol ydy "Educating for life".[1]
Cau[golygu]
Cyhoeddwyd cynnig stadudol i gau ysgolion Llanrhymni a Tredelerch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 20 Mawrth 2009. Cofnodwyd 1258 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu hyn 20 Mai 2009. Mae'r cynnig i gael ei wethredu ar 1 Rhagfyr 2012.[3]
Mae'r rhesymau dro sgau yn cynnwys y ffaith fod adeiladau'r ddwy ysgol yn hen ac mewn cyflwr gwael, y bwriad ydy i adeiladu ysgol newydd ar safle presennol Llanrhymni, gan werthu safle Ysgol Uwchradd Tredelerch er mwyn ariannu'r prosiect. Bydd yr ysgol sydd wedi cael ei grybwyll yn ffurfio parteniaeth â Ysgol Uwchradd Caerdydd ac Ysgol Uwchradd y Willows, gyda'r disgyblion yn mynd ymlaen i addysg bellach yng Ngholeg Glan Hafren, neu mewn sefydliad arall yn y ddinas fel yn briodol.[4]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Report: Llanrumney High School Inspection: 16/10/06 – 20/10/06. Estyn (15 Rhagfyr 2006).
- ↑ School Details: Llanrumney High School. Cyngor Caerdydd.
- ↑ Cyflenwad o Leoedd Mewn Ysgolion - Cynigion Statudol » Ysgol Uwchradd Llanrhymni ac Ysgol Uwchradd Tredelerch. Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- ↑ David James (19 Awst 2009). City council responds to objections raised over new school plan. South Wales Echo.