Llaneirwg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal a maestref yng Nghaerdydd yw Llaneirwg, neu Llaneurwg yn wreiddiol (Saesneg: St Mellons). Lleolir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas yn agos i gyffordd Porth Caerdydd ar yr M4. Enw'r gymuned yw "Hen Laneirwg".

Cynnwys

Hanes [golygu]

Dechreuodd Llaneirwg fel canolfan masnachol bychan yn Sir Fynwy, gan ddibynu ar amaethyddiaeth a theithio. Roedd perchnogion y tafardai yn gwasanaethu teithwyr a oedd yn defnyddio'r ffordd A4161, sef Ffordd Casnewydd, yr hen Ffordd Rhufeinig rhwng Caerdydd a Llundain.

Daeth Llaneirwg yn ran o ddinas Caerdydd yn ardal De Morgannwg odan ad-drefniad Deddf Llywodraeth Lleol 1972 ar 1 Ebrill 1974.

Geirdarddiad [golygu]

Dywed chwedl y bu bryn yn yr ardal yn gartref i Eurwg, Brenin Gwent, yn ystod y cyfnod Rhufeinig-Brydeinig, ac y newidiodd ei bobl i grefydd Cristnogol a cawsont eu bedyddio yn yr Afon Rhymni gerllaw. Codwyd eglwys Eurwg ger safle'r hen eglwys ym 1360 ac adnabyddwyd yr ardal fel Llaneirwg ers hynnu.[1].

Credir y daw'r enw Saesneg, St Mellons, o Sant Melaine o'r 6ed ganrif a ddaeth yn Esgob Rennes yn Llydaw, yn hytrach na'r Mellonius enwog, Esgob Rouen o'r 4edd ganrif. Fe wyddwn y magwyd un o'r ddau esgob yn ardal ystad Llaneirwg, ond mae'r ddwy stori wedi cael eu plethu drost y blynyddoedd,[2] gan adael haneswyr yn ansicr a pa un yw p'run.

Yn aml, nid yw pobl yn cyfeirio at y Llaneirwg hynafol wrth ddefnyddio'r enw Llaneirwg, ond at yr ystad dai mwy sydd wedi cael ei adeiladu i'r de-ddwyrain. Adnabyddir yr ardal hynafol fel Pentre Llaneirwg yn gyffredinol (Saesneg: Old St Mellons), tra bod yr ystad wedi dwyn yr enw Llaneirwg. Mae nifer o adeiladau ym Mhentre Llaneirwg yn dyddio o'r 19eg ganrif, tra bod y rhanfwyaf o adeiladau Llaneirwg wedi cael eu codi yn ystod yr 20fed ganrif hwyr a'r 21ain ganrif cynnar.

Gweler hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1.  Heol Maes Eirwg. BBC.
  2. Darllewnch fwy am Melaine a Mellonius


Cymunedau Caerdydd

Caerau | Castell | Cathays | Coryton | Croes Cwrlwys | Cyncoed | Danescourt | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan yr Afon | Llandaf | Llanedeyrn | Llaneirwg a Phentre Laneirwg | Llanisien | Llanrhymni | Llysfaen | Y Mynydd Bychan | Pentwyn | Pentyrch | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Trelluest | Tongwynlais | Trowbridge | Y Tyllgoed | Waunadda | Ystum Taf

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato