Yr iaith Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia

Iddew-Almaeneg oedd iaith frodorol y mwyafrif helaeth o'r Iddewon Ashcenasi a ymfudasant o Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop i Unol Daleithiau America yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Yn y cyfnod o fewnfudo ar raddfa helaeth rhwng y 1880au a'r Rhyfel Byd Cyntaf, ymsefydlodd rhyw ddwy filiwn o Iddewon Ewropeaidd yn yr Unol Daleithiau, yn bennaf yn y dinasoedd mawrion ac yn enwedig yn Efrog Newydd. Enillodd yr iaith le yn y gymuned Iddewig am sawl cenhedlaeth drwy dal tir ym meysydd diwylliant poblogaidd a'r cyfryngau, yn enwedig y wasg a'r theatr. Yn y ganrif ddiwethaf mae defnydd yr Iddew-Almaeneg yn iaith yr aelwyd wedi gostwng wrth i'r mwyafrif o Iddewon droi at Saesneg yn eu cartrefi a'u cymunedau, er bod ambell gymdogaeth lle mae'r Iddew-Almaeneg yn fyw. Er gwaethaf, pery'r iaith yn iaith etifedd ac yn symbol diwylliannol ymhlith Iddewon Ashcenasi yn yr Unol Daleithiau.[1]

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Yn debyg i ieithoedd mewnfudwyr eraill i'r Unol Daleithiau, datblygodd diwylliant poblogaidd Iddew-Almaeneg yn niwedd y 19g wrth i'r mewnfudwyr Ashcenasi ymddiwylliannu yn eu gwlad newydd. Yn y diwylliant hwn, adlewyrchir profiadau pob dydd yr Americanwyr Iddewig a'u cysylltiadau â chyfundrefnau gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol yr Unol Daleithiau. Dylanwadwyd ar ddiwylliant Iddew-Almaeneg yn gryf gan sawl agwedd o gymdeithas Americanaidd a diwylliannau mewnfudwyr eraill a oedd yn newydd i'r Aschcenasim, gan gynnwys rhyddid mynegiant, prynwriaeth, cabare, caffis, neuaddau dawns, y sinema, a llyfrgelloedd cyhoeddus.[2] Cyfyngwyd ar fewnfudo i'r Unol Daleithiau yn y 1920au, a dim ond ychydig o Iddewon o Ddwyrain Ewrop a gawsant eu derbyn i'r wlad yn yr ugain mlynedd ddilynol. Yn y cyfnod hwn, trodd y to iau o Ashcenasim, a anwyd yn yr Unol Daleithiau, at y Saesneg fel eu priod iaith, er yr oedd nifer ohonynt yn medru'r Iddew-Almaeneg i raddau. Er gwaethaf, parhaodd yr iaith yn gyfrwng mewn sawl maes diwylliannol, gan gynnwys y sinema a'r radio.[3]

Yn sgil yr Ail Ryfel Byd, newidiodd statws yr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn dwy ffordd. Dirywiodd y niferoedd o Americanwyr Iddewig a oedd yn defnyddio'r iaith yn ddyddiol, wrth iddynt gymhathu at y diwylliant Saesneg. Ar yr un pryd, enillodd Iddew-Almaeneg safle bwysig yn yr ymwybyddiaeth Iddewig, fel iaith symbolaidd er cof am y miliynau o siaradwyr a lofruddiwyd gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Holocost. Nid oedd bellach yn iaith mewnfudwyr, ond yn iaith etifedd a werthfawrogwyd gan y genedlaethau ifainc a anwyd yn y wlad fel mamiaith yr hen do. Yn y cyfnod wedi diwedd y rhyfel, roedd yr iaith yn ganolbwynt i nifer o ymdrechion gan athronwyr, anthropolegwyr, a ffotograffwyr i goffáu gwareiddiad diflanedig yr Aschenasim yn Ewrop, a chyhoeddwyd cyfieithiadau a blodeugerddi Saesneg o lenyddiaeth Iddew-Almaeneg. Yr enghraifft amlycaf o'r diwylliant coffaol hwn oedd y sioe gerdd Fiddler on the Roof a berfformiwyd yn gyntaf ar Broadway yn 1964, sy'n seiliedig ar straeon Sholem Aleichem, Iddew o'r Wcráin a dreuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn Efrog Newydd.[4]

O ganlyniad i'r niferoedd o Iddewon a fuont yn weithgar yn llenyddiaeth, ffilm, comedi, radio, a theledu yn yr Unol Daleithiau, mae nifer o eiriau ac ymadroddion Iddew-Almaeneg wedi treiddio i iaith lafar ac yn gyfarwydd i Americanwyr Saesneg. Cyhoeddwyd sawl ffug-eiriadur, megis Yiddish for Yankees ac Every Goy's Guide to Common Jewish Expressions, i gyflwyno priod-ddulliau ac iaith lafar yr Ashcenasim i Americanwyr "cenhedlig". Cafodd yr Iddew-Almaeneg ei phortreadu'n aml yn dafodiaith serthedd, archwaeth, a digrifwch yr Iddewon, mewn cyferbyniad â bywyd crefyddol a chymdeithasol parchus y rheiny a oedd wedi ymdoddi i'r gymdeithas Americanaidd.[4]

Mae ambell grŵp o Iddewon, yn enwedig o'r enwad Hasidig, yn cadw'r Iddew-Almaeneg yn iaith feunyddiol eu teuluoedd a'u cymdogaethau. Daeth y mwyafrif o Iddewon Hasidig i'r Unol Daleithiau wedi'r Ail Ryfel Byd, ac mae defnydd yr iaith yn nodi'r gwahaniaethau mawr rhwng eu cymunedau nhw a bywydau'r Iddewon Americanaidd eraill. Ers diwedd yr 20g mae diwylliant poblogaidd newydd wedi ffynnu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, ac hynny ar gyfer yr Iddewon Hasidig a chymunedau Uniongred eraill: caneuon duwiol gyda cherddoriaeth boblogaidd, llyfrau, gemau, a phosau i blant, a ffuglen genre megis nofelau hanesyddol ac ysbïo sy'n dangos sêl bendith yr awdurdodau rabinaidd.[5]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Y wasg oedd prif gyfrwng diwylliant poblogaidd y mewnfudwyr Iddew-Almaeneg yn nechrau'r 20g. Yn 1914, cyhoeddid pum papur newydd dyddiol yn Ninas Efrog Newydd yn yr iaith, yn ogystal â chyfnodolion wythnosol a misol. Yn ogystal â rhoi'r newyddion ac hysbysu am gyfleoedd i ymwneud â'r diwylliant Iddew-Almaeneg, buont yn cyhoeddi llên boblogaidd megis barddoniaeth, straeon difyr ac anecdotau, llythyrau at y golygydd, ryseitiau a chyngor y cartref, croeseiriau, a chartwnau. Ymddangosodd ffuglen hir fesul rhifyn, gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth y byd, ac un genre boblogaidd oedd y shund-romanen (nofel gyffrous).[3] Un o'r prif gyhoeddiadau oedd Yidishes Tageblat, y papur newydd dyddiol Iddew-Almaeneg cyntaf yn y byd.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Cafwyd adfywiad klezmer, cerddoriaeth draddodiadol Iddewon Dwyrain Ewrop, yn y 1970au, a berfformir y caneuon gwerin hynny drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg. Cenir hefyd traddodiad o ganeuon gwleidyddol Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â hen ganeuon y theatr Iddew-Almaeneg. Mae nifer o gantorion Iddew-Almaeneg cyfoes sydd wedi dysgu'r iaith, a nifer nad ydynt yn Iddewon.[4]

Theatr[golygu | golygu cod]

Hysbyslen ar gyfer addasiad o Hamlet gan Theatr Iddew-Almaeneg Thalia, a'r actores Bertha Kalich yn chwarae'r brif ran.

Blodeuai theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn modd nad oedd yn bosib yn Ymerodraeth Rwsia, lle bu sensoriaeth yn atal twf diwylliant o'r fath. Yn ogystal â gweithiau gwreiddiol gan ddramodwyr Iddewig, perfformiwyd clasuron y theatr Ewropeaidd drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg ar gyfer cynulleidfaoedd o Iddewon Americanaidd, gan gynnwys addasiadau poblogaidd o Shakespeare gydag elfennau wedi eu "Hiddeweiddio". Ysgrifennwyd amrywiaeth o ddramâu yn Iddew-Almaeneg, yn nodweddiadol o uwchddiwylliant ac isddiwylliant, gan gynnwys sioeau sentimental neu gynhyrfus, dramâu hanesyddol, a gweithiau realaidd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol. Sbardunwyd dadleuon cyhoeddus ynglŷn â goblygiadau moesol, gwleidyddol, ac esthetaidd diwylliant poblogaidd gan y theatr Iddew-Almaeneg, a chafodd ddylanwad grymus ar foderneiddio bywydau'r mewnfudwyr Iddewig yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â pherfformiadau byw, roedd recordiadau sain a cherddoriaeth ddalen yn boblogaidd ymysg mynychwyr theatr oedd yn awyddus i fwynhau'r diwylliant hwn yn eu cartrefi.[3]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd tua 130 o ffilmiau llawn, a rhyw 30 o ffilmiau byrion, yn ystod oes aur y sinema Iddew-Almaeneg rhwng 1911 a 1940. Ymhlith lluniau mawr y 1930au mae Grine felder (1937). Vu iz mayn kind? (1937), Tevye der milkhiker (1939), ac Hayntike mames (1939). Portreadir y rhain i gyd mewn byd Iddew-Almaeneg sinematig, a phob un cymeriad yn siarad yr iaith.[3]

Radio[golygu | golygu cod]

Yn niwedd y 1920au, dechreuodd cyfnod o raglenni radio Iddew-Almaeneg mewn dinasoedd gyda chymunedau Iddewig mawr, gan gynnwys Efrog Newydd, Chicago, a Los Angeles. Darlledwyd amrywiaeth eang o raglenni, gan gynnwys operâu sebon, adroddiadau newyddion, cyfweliadau, a cherddoriaeth. Roedd nifer o'r darllediadau yn ddwyieithog, gan adlewyrchu profiadau'r to iau o Americanwyr Iddewig a oedd yn siarad Iddew-Almaeneg wrth yr aelwyd a Saesneg yn gyhoeddus.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 449.
  2. Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 449–50.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 450.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 451.
  5. Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 451–2.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Jeffrey Shandler, Adventures in Yiddishland: Postvernacular Language and Culture (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 2005).
  • Ilan Stavans a Josh Lambert (goln), How Yiddish Changed America and America Changed Yiddish (Efrog Newydd: Restless Books, 2020).