Trwyn y Balog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Point Lynas Lighthouse - geograph.org.uk - 79151.jpg

Ar orynys ar arfordir gogledd ddwyreiniol Ynys Môn ger Mynydd Eilian gydag Amlwch i'r gorllewin a Bae Moelfre i'r dwyrain y saif Trwyn y Balog (Saesneg: Point Lynas). Mae goleudy'n codi ohono, un a godwyd yn y 17eg ganrif oherwydd twf porthladd Lerpwl a bod peilotiaid y porthladd am gyfarwyddo'r llongau yn saff i mewn ac allan o'r porthladd a oedd yn tyfu'n fasnachol yr adeg honno. Trefnwyd hyn gan Ymddiriedolaeth Porthladd Lerpwl.

Yn 1762 pasiwyd deddf yn y Senedd yn awdurdodi codi goleudai a sefydlu cyfundrefn i gyflogi a rheoli peilotiaid i dywys y llongau i'r porthladd. Sefydlwyd Safle Peilotiaid mewn adeilad gyferbyn â Phorth yr Ysgaw ar dir yn perthyn i Henry Morgan yn 1779. Dangoswyd golau i fod yn gymorth i longau cyfagos.

Yn 1827 adeiladwyd Gorsaff Teligraff ar Fynydd Eilian sef Point Lynus, i rybuddio Pier Head, Lerpwl fod llongau ar y ffordd. Dyma'r unig fodd o drosglwyddo'r rhybudd o'r llongau i Lerpwl, er mwyn paraoi dyniol i lwytho a dadlwytho'r llongau heb wastraffu amser. Parhaodd hyn nes i'r system deligraff gyrraedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cuddliwiwyd y goleudy gyda phaent brown, melyn, gwyrdd a du - fel cuddliw.

Yn Awst 1899, holodd Yr Arolwg Ordnans, ynglŷn ag enw'r goleudy a chafwyd fod nifer yn bodoli: Eilianus Point, Point Lynus a Point Lynas. Penderfynwyd ar 'Point Lynas' fel enw swyddogol er mai 'Trwyn y Balog' oedd yr hen enw Cymraeg.

Manylion y goleudy[golygu]

  • Lleoliad - 53* 25' 11 Gog, 04* 17' 17 Gor.
  • Rhestr y Morlys o Oleudai 4160