Trochydd gyddfddu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Trochydd Gyddfddu)
Trochydd gyddfddu
Gavia arctica

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gaviiformes
Teulu: Gaviidae
Genws: Gavia[*]
Rhywogaeth: Gavia arctica
Enw deuenwol
Gavia arctica
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Trochydd gyddfddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: trochyddion gyddfddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Gavia arctica; yr enw Saesneg arno yw Black-throated diver. Mae'n perthyn i deulu'r Gaviidae (Lladin: Gaviidae) sydd yn urdd y Gaviiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. arctica, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop, gogledd Asia ac weithiau yng ngorllewin Alaska. Fel rheol mae'n tueddu i nythu ar lynnau mwy na'r Trochydd Gyddfgoch. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a gellir eu gweld ar yr arfordir neu ar lynnoedd mawr. Pysgod yw ei brif fwyd.

Mae ganddo wddw du, pen llwyd, cefn tywyll ac mae'n wyn oddi tano. Yn y gaeaf mae'n wyn ar y gwddw, ac yn aderyn llawer twyllach na'r Trochydd Gyddfgoch. Nid yw'r Trochydd Gyddfddu yn nythu yng Nghymru ond mae ambell un i'w weld ar yr arfordir yn ystod y gaeaf; er ei fod yn llai cyffredin na'r Trochydd gyddfgoch a'r Trochydd mawr.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r trochydd gyddfddu yn perthyn i deulu'r Gaviidae (Lladin: Gaviidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Trochydd gyddfddu Gavia arctica
Trochydd gyddfgoch Gavia stellata
Trochydd mawr Gavia immer
Trochydd pigwyn Gavia adamsii
Trochydd y Môr Tawel Gavia pacifica
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Gavia arctica

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Trochydd gyddfddu gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.