Thomas Morgan (AS bu farw 1565)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Morgan
GanwydSir Fynwy Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mehefin 1565 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552 Edit this on Wikidata
TadWilliam Morgan Edit this on Wikidata
MamFlorence Brydges Edit this on Wikidata
PlantWilliam Morgan Edit this on Wikidata

Roedd Syr Thomas Morgan (tua 1509 - 5 Mehefin, 1565) yn Filwr ac yn Aelod Seneddol Cymreig.[1]

Roedd yn fab hynaf Syr William Morgan, Pencoed, Sir Fynwy a Florence, merch Syr Giles Brydges o Coberley, Swydd Gaerloyw. Roedd yn frawd i Giles Morgan AS Bwrdeistrefi Sir Fynwy

Ym 1530 ymddangosodd gyda'i dad a'i frawd o flaen Cyngor Cymru a'r Gororau ar gyhuddiad o ddwyn ŷd y degwm oddi wrth Ficer Llanfihangel Rogiet ac am geisio ei daflu allan o'r ficerdy; amddiffyniad y Morganiaid oedd eu bod yn gweithio ar ran Esgob Llandaf, ond bu'r dyfarniad yn eu herbyn.

Roedd yn bensiynwr Bonheddig 1540-1544 ac Ynad Heddwch dros Sir Fynwy o 1543 hyd ei farwolaeth.

Gwasanaethodd yn y rhyfeloedd yn Ffrainc a chafodd ei ddyrchafu'n farchog ar ddiwedd gwarchae Boulogne ym 1544. Cafodd ei ethol yn AS ar gyfer Sir Fynwy wedi iddo ddychwelyd ym 1546[2] ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fynwy ar gyfer 1547-1548 a 1558-1559. Gwasanaethodd fel Prif Stiward Arglwyddiaeth Machen, Casnewydd a Gwynllŵg.

Priododd Cecily, merch Syr George Herbert, Abertawe, bu iddynt 5 fab a merch. Roedd ganddo o leiaf ddwy ferch o'r tu allan i briodas hefyd Jane a Mary sy'n cael eu crybwyll mewn ewyllys a ysgrifennodd cyn mynd i'r rhyfeloedd yn Ffrainc. Bu ei fab William Morgan yn AS Bwrdeistrefi Trefynwy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MORGAN, Sir Thomas (by 1509-65), of Pencoed, Mon". History of Parliament Online. Cyrchwyd 17 Mehefin 2016.
  2. W R Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales adalwyd 18 Mehefin 2016
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Walter Herbert
Aelod Seneddol Sir Fynwy
1547
Olynydd:
Charles Herbert


Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.