Jim Parc Nest

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth T. James Jones)
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Archdderwydd Jim Parc Nest, Eisteddfod Wrecsam 2011

Bardd, sgriptiwr, a darlithydd yw'r Prifardd Jim Parc Nest, neu T. James Jones (ganed 1934). Mae'n un o deulu Parc Nest. Ar hyn o bryd, ef yw Archdderwydd Cymru.

Cynnwys

Gyrfa[golygu]

Ganed Jim Parc Nest ym 1934, ac fe'i magwyd ar fferm Parc Nest ger Castell Newydd Emlyn.[1] Mynychodd Goleg Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr ym Mynydd-bach Abertawe a’r Priordy Caerfyrddin cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Daeth yn aelod o adran sgriptiau’r BBC, yn bennaf fel golygydd cyfres sebon Pobol y Cwm.[2]

Prifardd[golygu]

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Abergwaun 1986 ac yn Eisteddfod Casnewydd 1988 gyda'i bryddestau Llwch a Ffin. Yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007 enillodd y Gadair gyda'i awdl ar y testun Ffin. Mae felly wedi ennill y Goron a'r Gadair ar yr un testun.

Roedd ei ffugenw yn 2007, Un o ddeuawd, yn adlais o ffrae a gododd pan ymgeisiodd am y Goron yn Eisteddfod Caernarfon 1979 o dan y ffugenw Ianws. Bryd hynny, bu'n rhaid iddo ildio'r Goron i Meirion Evans wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio â bardd arall ar y gwaith. Dywedodd yn 2007, fodd bynnag, nad oedd wedi bwriadu i'w ffugenw gyfeirio at helynt 1979.[3]

Yn 2009, cafodd ei ddewis i olynu Dic yr Hendre fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd. Etholir Archdderwydd am gyfnod o dair blynedd.

Bywyd personol[golygu]

Mae'n frawd i'r Prifardd John Gwilym ac i'r Prifardd Aled Gwyn, yn ogystal â bod yn ewythr i'r Prifardd Tudur Dylan. Mae'n briod â'r awdures y Prif Lenor Manon Rhys, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam 2011 ag yntau'n Archdderwydd. Mae ganddo ddau fab, llysfab, llysferch, a chwech o wyrion.

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Bois Parc Nest. S4C.
  2.  Enillydd y Gadair. Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
  3.  Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod. BBC. Adalwyd ar 11 Awst, 2011.