John Gwilym Jones (bardd)
Oddi ar Wicipedia
- Am y dramodydd, gweler John Gwilym Jones (dramodydd)
Bardd Cymraeg yw John Gwilym Jones (ganed 1937). Ganed ef yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yn frawd i T. James Jones. Graddiodd yn y Gymraeg, cyn mynd i'r weinidogaeth. Bu'n weinidog yn y Tymbl a Bangor.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981 am Y Frwydr. Bu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996. Yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995, roedd yn gyfrifol am gadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones, a choroni ei frawd, Aled Gwyn Jones. Wedi ei gyfnod fel Archdderwydd, daeth yn Gofiadur yr Orsedd.
Gweithiau [golygu]
- Ail drannoeth : ambell sylw a myfyrdod (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceregigion, 2003)