Stephen J. Williams

Oddi ar Wicipedia
Stephen J. Williams
Ganwyd11 Chwefror 1896 Edit this on Wikidata
Ystradgynlais Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1992 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethperson dysgedig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Geiriadur Mawr Edit this on Wikidata
PlantUrien Wiliam Edit this on Wikidata

Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe oedd Stephen Joseph Williams, yn fwy adnabyddus fel Stephen J. Williams (11 Chwefror 1896 - 2 Awst 1992). Mae'n fwyaf adnabyddus am Elfennau gramadeg Cymraeg, sydd wedi mynd trwy sawl argraffiad. Roedd hefyd yn olygydd ymgynghorol i Y Geiriadur Mawr. Roedd yn frodor o Ystradgynlais, Brycheiniog.

Daeth dau fab iddo, Urien Wiliam ac Aled Rhys Wiliam, yn adnabyddus fel llenorion yn ddiweddarach.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • (gol.) Ystorya de Carolo Magno: o Lyfr Coch Hergest (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
  • Y dyn hysbys: comedi mewn tair act (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth, 1935)
  • (gol.) Robert ap Gwilym Ddu: detholion o'i weithiau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948)
  • Ifor Ceri, noddwr cerdd (1770-1829) (Gwasg Prifysgol Abertawe, 1955) ISBN 0901626325
  • Detholion o'r hen gyfreithiau Cymreig, wedi eu diweddaru gan Stephen J. Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)
  • Elfennau Gramadeg Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959) a sawl argraffiad wedyn
  • (gol.) Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (dull Dyfed): argraffiad beirniadol ac eglurhaol (gyda J. Enoch Powell) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.