Aled Rhys Wiliam

Oddi ar Wicipedia
Aled Rhys Wiliam
Ganwyd4 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 2008 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgolhaig dyneiddiol, darlledwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ysgolhaig, darlledwr a bardd Cymreig oedd Aled Rhys Wiliam (4 Rhagfyr 19261 Ionawr 2008).[1]

Ganed ef yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Athro Stephen J. Williams ac yn frawd i Urien Wiliam. Magwyd ef yn Abertawe, ac astudiodd Gymraeg, Lladin a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n ymchwilio i Gyfraith Hywel dan Idris Foster yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen, a chyhoeddodd argraffiad o Lyfr Iorwerth ym 1960.

Bu'n olygydd cynorwythol Geiriadur Prifysgol Cymru o 1954 ymlaen, ac yn 1956 daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Cyncoed, Caerdydd. Daeth yn gyflwynydd ar BBC Cymru, yn arbennig ar y rhaglen Heddiw. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984 am gerdd Y Pethau Bychein.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • (golygydd) Llyfr Iorwerth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; adargraffiad 1979).
  • Cywain (1995), casgliad o farddoniaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Aled Rhys Wiliam: Welsh scholar and broadcaster". The Independent (yn Saesneg). 8 Ionawr 2008. Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.