Soaigh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Soaigh

Un o ynysoedd Sant Kilda yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Soaigh (Saesneg: Soay). Hi yw'r fwyaf gorllewinol o'r ynysoedd hyn.

Saif yr ynys i'r gogledd-orllewin o'r brif ynys, Hiort, gyda chulfor tua hanner cilomedr o led yn eu gwahanu. Yn y culfor yma mar craig uchel, Stac Shoaigh. Ynys fechan ydyw, tua 2 km o led. Y copa uchaf yw Cnoc Glas, 376 medr uwch lefel y môr.

Fel y gweddill o ynysoedd Sant Kilda, mae'r ynys yn perthyn i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban, ac nid oes poblogaeth barhaol arni. Mae'n adnabyddus fel cartref Defaid Soaigh.