Defaid Soaigh

Oddi ar Wicipedia
Dafad Soaigh

Brîd o ddefaid (Ovis aries) yw Defaid Soaigh (Saesneg: Soay sheep). Maent yn ddidgynyddion o boblogaeth o ddefaid ar ynys Soaigh, un o ynysoedd Sant Kilda yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban.

Credir fod y defaid hyn yn esiampl o ddefaid cyntefig, efallai yn debyg i'r defaid a gedwid yn y cyfnod Neolithig. Maent yn debyg i ddefaid mouflon o amgych y Môr Canoldir a defaid urial Canolbarth Asia. Mae ansicrwydd sut y daethant i ynys Soaigh; cred rhai eu bod yno ers Oes yr Efydd, eraill mai'r Llychlynwyr a ddaeth a hwy yno.

Maent yn llai na defaid arferol, ac mae eu lliw yn amrywio; gallant fod yn frown tywyll neu bron yn wyn. Mae'r boblogaeth ar ynys Soaigh ei hun yn wyllt, ond mae'r defaid yn cael eu cadw am eu gwlân yn bur gyffredin. Ceir poblogaeth ar Ynys Llanddwyn ger Ynys Môn, lle defnyddir hwy i bori'r warchodfa. Ni ellir defnyddio cŵn defaid i'w casglu at ei gilydd, gan eu bod yn gwasgaru yn hytrach na'n closio at ei gilydd.