Samöeg
Oddi ar Wicipedia
| Samöeg (gagana Sāmoa) | |
|---|---|
| Siaredir yn: | Samoa, Samoa America. Lleafrifoedd yn Seland Newydd, Awstralia, UDA. |
| Parth: | Ynysoedd Samoa |
| Cyfanswm o siaradwyr: | 369,957[1] |
| Safle yn ôl nifer siaradwyr: | |
| Achrestr ieithyddol: | Awstronesaidd Malayo-Polynesaidd |
| Statws swyddogol | |
| Iaith swyddogol yn: | Samoa, Samoa America |
| Rheolir gan: | dim rheoliad swyddogol |
| Codau iaith | |
| ISO 639-1 | sm |
| ISO 639-2 | smo |
| ISO 639-3 | smo |
| Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd | |
Iaith Awstronesaidd a siaredir yn Ynysoedd Samoa yw Samöeg. Mae'n un o ieithoedd swyddogol Samoa a Samoa America ynghyd â Saesneg. Mae gan Samöeg tua 370,000 o siaradwyr. Ceir y mwyafrif ohonynt yn Ynysoedd Samoa ond mae cymunedau sylweddol o Samoaid yn Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau a sawl gwlad arall.
Mae gan yr wyddor Samöeg 15 llythyren yn cynnwys yr okina (‘). Defnyddir y llythyrennau ychwanegol h, k ac r mewn benthyceiriau.
| Aa, Āā | Ee, Ēē | Ii, Īī | Oo, Ōō | Uu, Ūū | Ff | Gg | Ll | Mm | Nn | Pp | Ss | Tt | Vv | (Hh) | (Kk) | (Rr) | ‘ |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| /a/, /aː/ | /ɛ/, /eː/ | /iː/ | /o/, /ɔː/ | /ʊ/, /uː/ | /f/ | /ŋ/ | /l, ɾ/ | /m/ | /n/, /ŋ/ | /p/ | /s/ | /t/ | /v/ | (/h/) | (/k/) | (/ɾ/) | /ʔ/ |
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gramadeg Samöeg
- (Saesneg) Recordiadau Samöeg
Argraffiad Samöeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd