Ynysoedd Samoa
Oddi ar Wicipedia
Ynysfor yn Ne'r Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Samoa sy'n cynnwys y wlad annibynnol Samoa, a'r diriogaeth Samoa America sydd dan reolaeth yr Unol Daleithiau. Mae trigolion yr ynysoedd yn bobl Bolynesaidd a elwir yn Samoaid, ac maent yn rhannu diwylliant a chymdeithas debyg gan gynnwys yr iaith Samöeg.