Saint-Pierre-et-Miquelon
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Saint-Pierre a Miquelon)
Ynysoedd sy'n un o diriogaethau tramor Ffrainc yng ngogledd Môr Iwerydd yw Saint-Pierre-et-Miquelon, Safant 25 km oddi ar arfordir Canada. Ar un adeg, roeddynt yn département d'outre-mer; ers 1985 mae ganddynt y statws o collectivité territoriale.
Mae tair prif ynys: Saint-Pierre, y leiaf o'r tair ond yr un lle mae 90% o'r boblogaeth yn byw, Miquelon, a Langlade. Ers y 18fed ganrif, mae penrhyn tywodlyd yn cysylltu'r ddwy olaf.
Cafodd ynys Saint-Pierre ei henw gan y fforiwr Jacques Cartier yn 1536. Yn yr 16eg ganrif, defnyddid yr ynysoedd gan bysgotwyr o Normandi, Gwlad y Basg a Llydaw. Erbyn cyfrifiad 1999, roedd y boblogaeth yn 6,316, gyda 5,618 o'r rhain ar Saint-Pierre.