Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail)

Oddi ar Wicipedia
Robert Hughes
FfugenwRobin Ddu yr Ail Edit this on Wikidata
Ganwyd1744 Edit this on Wikidata
Penmynydd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1785 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd a beirniad o Ynys Môn oedd Robert Hughes (1744 - 27 Chwefror 1785), a adwaenid wrth ei enw barddol Robin Ddu yr Ail (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a'r bardd canoloesol Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd, neu 'Robin Ddu', yntau'n frodor o'r ynys hefyd).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Robert Hughes ym mhlwyf Penmynydd, Môn, yn 1744. Gan iddo dderbyn addsyg dda ym more ei oes, bu am ryw gymaint o amser yn cadw ysgol ddyddiol yn Amlwch. Yn nes ymlaen, symudodd oddi yno i Swydd Amwythig ac oddi yno i Lundain, lle arosodd am ugain mlynedd fel ysgrifennydd i gyfreithiwr yn y Deml.[1]

Yn ystod ei arosiad yn Llundain, cyfansoddodd amryw gerddi, ac argraffwyd rhai ohonynt yn y flodeugerdd adnabyddus Dewisol Ganiadau yr Oes Hon a gyhoeddwyd yn 1759 gan Huw Jones o Langwm. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr cymdeithas y Gwyneddigion.[2]

Am fod ei iechyd yn gwaethygu, symudodd yn ôl i ogledd Cymru ac ymsefydlodd yn nhref Caernarfon. Bu farw yno o'r darfodedigaeth ar y 27 Chwefror 1785. Cododd Cymdeithas y Gwyneddigion gofadail iddo yn eglwys Llanbeblig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Josiah Thomas Jones, Enwogion Cymru (Aberdâr, 1867).
  2. Josiah Thomas Jones, Enwogion Cymru (Aberdâr, 1867).