Rhestr o gymeriadau Grand Theft Auto III

Oddi ar Wicipedia
Clawr y gêm

Mae Grand Theft Auto III yn gêm fideo antur byd agored, a gyhoeddwyd ar 21 Hydref 2001 ar gyfer PlayStation 2. Mae'n rhan o gyfres Grand Theft Auto, a gyhoeddwyd gan gwmni Rockstar Games. Dyma restr o'r cymeriadau sy'n ymddangos yn y gêm.

Arwr a phrif gwrtharwyr[golygu | golygu cod]

Claude[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Claude

Claude yw arwr tawel Grand Theft Auto III (GTA III). Y cymeriad yn y gêm sy'n cael ei reoli gan y chwaraewr. Mae'n cael ei adael yn farw ar ôl lladrad banc gan Catalina, gan arwain at ei arestio gan yr heddlu. Mae'n dianc wrth gael ei hel i'r ddalfa ac yn cychwyn antur y gêm.[1]

Catalina[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Catalina

Mae Catalina a Claude,[2] yn gariadon sydd wedi bod ar daith droseddol gyda'i gilydd ar draws America. Wedi dwyn o fanc yn Liberty City mae Catalina yn torri eu perthynas trwy saethu Claude [3] tra bod hi'n rhedeg i ffwrdd gyda'i phartner newydd mewn trosedd a chariad, #Miguel. Mae cymeriad Catalina yn cael ei lleisio gan Cynthia Farrell.[4]

Miguel[golygu | golygu cod]

Mae Miguel yn aelod o Gartel y Colombiaid a phartner Catalina ar ôl iddi saethu Claude. Gwelir ef yn aml gyda Catalina yn rhedeg busnes cyffuriau SPANK yn Liberty City. Yn ystod tasg lle mae Donald Love yn gofyn i Claude i adennill pecyn o'r maes awyr, mae'r pecyn yn cael ei ddwyn gan Cartel y Colombiaid ac mae'n cael ei drosglwyddo i Catalina a Miguel. Mae Claude yn eu tracio ac yn y pen draw mae'n llwyddo i gael Miguel i ildio'r pecyn iddo. Mae Catalina saethu Miguel ac yn cael y pecyn yn ôl, gan ei adael wrth drugaredd Asuka Kasen, sy'n credu'n anghywir ei fod yn gyfrifol am ladd ei brawd. Mae Asuka yn ei boenydio er mewn cael o i ddatgelu gwybodaeth am weithrediadau Catalina. Mae Catalina yn ei ladd ef ac Asuka ac yn herwgipio Maria. Llesiwyd Miguel gan Al Espinosa.[4]

Prif Gymeriadau sy'n ymddangos mewn mwy nag un gêm[golygu | golygu cod]

8-Ball[golygu | golygu cod]

Prif erthygl 8-Ball

Mae 8-Ball yn werthwr ffrwydron a drylliau, sy'n berchen ar garejys sy'n gosod ffrwydron mewn ceir yn ninasoedd Liberty City, Vice City a San Andreas.[5]. Wedi cael ei ddedfrydu i garchar am wyth deg pum cyhuddiad o fod ag arfau yn ei feddiant heb drwydded.[6] Mae o'n cael ei drosglwyddo i'r carchar gyda Claude a'r hen ŵr o Ddwyrain Asia[7]. Mae Cartel y Colymbiaid yn ymosod ar y cerbyd heddlu sydd yn eu trosglwyddo er mwyn herwgipio'r hen ŵr. Yn y dryswch, mae 8-Ball a Claude yn llwyddo i ddianc o warchodaeth yr heddlu. Mae 8-Ball yn cynorthwyo Claude i osod ffrwydrad ar long sy'n cael ei ddefnyddio fel ffatri creu cyffuriau. Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan y diweddar artist rap Americanaidd Keith "Guru" Elam.[4]

Toni Cipriani[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Toni Cipriani

Mae Toni Cipriani yn un o brif swyddogion syndicâd maffia Teulu Leone. Mae'n byw mewn bwyty Eidalaidd yn ardal St Mark's gyda Ma Cipriani, ei fam. Bydd Claude yn mynychu'r caffi i dderbyn tasgau gan Toni, yn bennaf yn ymwneud ag ymosod ar gang Tsieineaidd y Triads.[8]. Mae cymeriad Toni yn cael ei leisio gan Michael Madsen[4]

Asuka Kasen[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Asuka Kasen

Mae Asuka Kasen (Siapaneaidd: 加 瀬 明日香, Kase Asuka) yn shateigashira (cyd-arweinydd) y Yakuza (gang tebyg i'r Maffia o Siapan [9]). Mae hi'n helpu Claude a Maria Latore ffoi pan fo Salvatore Leone yn ceisio eu lladd. Ym mysg tasgau Asuka i Claude yw gorchymyn iddo ladd nifer o asiantau Teulu Leone sydd yn bygwth Kenji, ei brawd gyferbyn â'i gasino. Mae am iddo ladd un o ohebwyr y papur lleol, Liberty Tree, a swyddog heddlu cudd o'r enw Tanner. Lleisiwyd Asuka gan Liana Pai.[10]

Maria Latore[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Maria Latore

Mae Maria Latore yn wraig i Salvatore Leone Don (pennaeth) Teulu Leone a llys fam i'w fab, Joey Leone. Mae Salvatore yn credu bod hi a Claude yn cael perthynas ac yn ceisio eu llofruddio mewn dial. Mae'r cymeriad yn cael ei lleisio gan Debi Mazar[4]

Salvatore Leone[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Salvatore Leone

Salvatore Leone yw Don neu bennaeth y syndicâd maffia Teulu Leone.[11] Mae o'n dad i Joey Leone ac yn ŵr i Maria Latore. Mae Salvatore yn ymddiried yn Claude i gyflawni nifer o dasgau iddo yn rhan gyntaf y gêm. O dan amheuaeth bod Claude yn cael perthynas efo'i wraig mae o'n cynllwynio i'w ladd ond mae'r cynllwyn yn methu. Wedi'r anghydfod mae Claude yn ei ladd ef. Mae'r actor Frank Vincent yn lleisio'r cymeriad[12].

Donald Love[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Donald Love

Mae Donald Love yn biliwnydd sy'n berchen ar gwmnïau cyfryngau Love Media mae ganddo hefyd diddordeb yn y diwydiannau adeiladu, perchenogaeth tir a bwydydd anifeiliaid anwes[13] Mae rhai wedi awgrymu bod ei gymeriad yn gwawdio Donald Trump a oedd yn bersonoliaeth y cyfryngau â diddordebau yn y busnes adeiladu ar adeg cyhoeddi'r gêm.[14] Mae o'n ganibal ac yn meddu ar obsesiwn rhywiol efo cyrff dynol. Mae Kyle MacLachlan[15] yn lleisio ei gymeriad.

Ray Machowski[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Ray Machowski

Mae Raymond Machowski yn swyddog heddlu llygredig sy'n gweithio gydag Asuka a Kenji Kasen, cyd-arweinwyr y Yakuza, gang troseddol a'i gwreiddiau yn Japan. Mae cyn partner Ray, Leon McAffrey yn cytuno i roi tystiolaeth yn erbyn Machowski[16]. O ganfod bod McCaffrey am roi tystiolaeth yn ei erbyn mae Machowski yn anfon Claude i'w ladd. Mae Robert Loggia yn lleisio'r cymeriad.[4]

Man Gymeriadau sy'n ymddangos mewn mwy nag un gêm[golygu | golygu cod]

Phil Casidy[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Phil Casidy

Mae Phil Casidy yn werthwr magnelaeth trwm, sy'n gwerthu arfau gradd filwrol megis grenadau, lansiwr roced, gynau peiriant, ac ati. Mae Phil yn disgrifio ei hun fel cyn-filwr ac yn trafod ei brofiadau yn rheolaidd. Mae gan Phil un fraich ac mae'n ddall mewn un llygad, mae'n honni bod y rhain yn anafiadau rhyfel. Mae Claude yn ei gynorthwyo i amddiffyn ei fusnes rhag ymosodiad gan Gartel y Colombiaid[17]. Hunter Platin yw actor llais y cymeriad[4].

Ma Cipriani[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Ma Cipriani

Ma Cipriani yw perchennog bwyty Eidalaidd yn ardal St Mark's[18]. lle mae hi'n byw efo Toni, ei mab. Mae hi'n cwyno'n barhaus am Toni gan nad yw hi'n credu ei fod o'n hanner cystal dyn ag oedd ei ddiweddar dad. Mae Ma yn cael ei lleisio gan Sondra James.[4]

King Courtney[golygu | golygu cod]

Prif erthygl King Courtney

King Courtney yw arweinydd y gang y Jamaican Uptown Yardies. Mae'n rhoi tasgau i Claudeo o flwch ffôn ger y brifysgol ar Ynys Staunton. Mae prif ffocws y tasgau yn ymwneud yn bennaf a dwyn ceir gan gangiau gelyniaethus[19]. Mae cymeriad King Courtney yn cael ei leisio gan Walter Mudu[20]

Leon McAffrey[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Leon McAffrey

Mae Leon McAffrey yn swyddog heddlu llygredig[21] a chafodd ei ddal yn gweithio i Salvatore Leone a 'i syndicâd maffia, Teulu Leone. Er mwyn osgoi cael cosb mae'n cytuno i roi tystiolaeth yn erbyn heddwas llwgr arall Ray Machowski,[16]. Mae Machawski yn danfon Claude i'w ladd er mwyn rhwystro ei dystiolaeth. Mae cymeriad Leon McAffrey yn cael ei leisio gan Ron Orbach.[22][23]

Misty[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Misty

Mae Misty yn fenyw sy'n gweithio i Luigi Goterelli yn Sex Club 7, ac yn hoff butain Joey Leone. Ar ddau achlysur mae Luigi yn gorchymyn Claude i'w gyrru o naill le i'r llall, gan ddweud wrtho am wneud yn siwr ei fod "yn cadw ei lygaid ar y ffordd ac oddi ar Misty." Mae hi'n byw mewn fflat yn Hepburn Heights. Mae Misty yn cael ei lleisio gan Kim Gurney.

Cymeriadau Unigryw GTA III[golygu | golygu cod]

Yr Hen Ŵr o Ddwyrain Asia[golygu | golygu cod]

Mae'r Hen Ŵr yn gymeriad bach ond allweddol yn stori'r gêm, sydd hefyd yn gyfaill i Donald Love. Ychydig cyn dechrau stori'r gêm mae Donald yn cyflogi'r Hen Ŵr i ddysgu Tai Chi iddo. Mae'n danfon awyren breifat i ddod a fo i'r ddinas ond mae'n cael ei rwystro gan yr awdurdodau mewnfudo[7]. Mae'r hen ŵr yn cael ei herwgipio gan Gartel y Colombiaid wrth iddo gael ei drosglwyddo o swyddfa'r heddlu i'r carchar. Mae Claude a 8-Ball yn cael eu trosglwyddo i'r carchar yn yr un cerbyd heddlu ac maent yn llwyddo ffoi ynghanol y cudd-ymosod. Yn hwyrach yn y gêm mae Donald yn rhoi tasg i Claude i achub yr hen ŵr o grafangau'r Cartel. Mae Claude yn cael ei ddanfon i nôl pecyn gyda chynnwys sy'n aros yn ddirgel o'r maes awyr. Wedi cyrraedd y maes awyr mae'n darganfod bod y Cartel wedi ei dwyn. Mae o'n dilyn y Cartel yn ôl i'r safle adeiladu yn Fort Staunton lle mae o'n canfod bod y pecyn yn nwylo ei gyn cariad ac arweinydd y Cartel, Catalina. Mae o'n cael y pecyn yn ôl ac yn helpu'r hen ŵr i ddianc gyda'r pecyn. Mae Donald, yr henwr a'r pecyn yn diflannu.

Curly Bob[golygu | golygu cod]

Curly Bob yw'r barman yng nghlwb oedolion Sex Club 7, sy'n datgelu cyfrinachau syndicâd teulu Leone i Gartel Colombiaid yn gyfnewid am y cyffur SPANK. Dan orchymyn Salvatore Leone mae Claude yn dilyn Curly i geisio cael tystiolaeth o'i frad. Mae Claude yn canfod Curly yn Harbwr Portland yn rhoi gwybodaeth am gynlluniau'r syndicâd i Catalina a Miguel, yn gyfnewid am gyffur SPANK. Mae Claude yn ei ladd. Lleiswyd Curly gan Hunter Platin[4].

Chico[golygu | golygu cod]

Mae Chico yn ddeliwr cyffuriau sy'n darparu cyffuriau i Maria Latore, mae'n gwerthu cyffuriau yn Chinatown. Mae Chico yn rhoi gwybod i Maria am bartïon sy'n digwydd yn Portland, gan gynnwys parti sy'n digwydd mewn warws yn Atlantic Quays. Mae Chico'n cael ei leisio gan Hunter Platin[4].

Marty Chonks[golygu | golygu cod]

Martin Chonks yw perchennog cwmni bwyd anifeiliaid anwes Bitch'n Dog Food. Mae ei angen am arian yn ei achosi i berfformio gweithgareddau anghyfreithlon amrywiol, sy'n arwain iddo alw #Claude. Mae ei dasgau'n cynnwys cludo nifer o bobl, gan gynnwys ei wraig ei hun, i ffatri Bitch'n Dog, lle mae Marty yn eu troi'n fwyd cŵn. Ar ôl i Chonks ladd ei wraig, mae o'n cael ei ladd gan gariad ei wraig yn y dasg "Her Lover"[24]

D-Ice[golygu | golygu cod]

D-Ice yw arweinydd gang y Red Jacks. Mae'n rhoi tasgau i Claude o flwch ffôn yn Shoreside Vale. Mae'r rhan fwyaf o'i dasgau yn ymwneud ag  ymosodiadau yn erbyn gang y Purple Nines, a oedd yn cyflenwi'r cyffur SPANK yn yr ardal. Mae cymeriad D-Ice yn cael ei leisio gan Walter Mudu [4]

El Burro[golygu | golygu cod]

El Burro (Sbaeneg ar gyfer "Yr Asyn") yw arweinydd gang y Diablos, sy'n rhoi tasgau i Claude o flwch ffôn yn Hepburn Heights, Ynys Portland. Mae El Burro yn rhedeg busnes cyhoeddi cylchgronau pornograffig. Mae el Burro yn cael ei leisio gan Chris Phillips.[4]

Mike Lips Forelli[golygu | golygu cod]

Mae Mike Lips Forelli yn aelod blaenllaw o deulu troseddol Forelli. Mae Joey Leone yn anfon Claude i'w ladd, mewn ymdrech i ddysgu gwers i deulu Forelli am beidio â thalu dyledion. Mae Mike yn bwyta yn Marco's Bistro yn Saint Mark pan mae Claude yn dwyn ei gar ac yn mynd a'r car i garej 8-Ball i osod bom ynddo cyn dychwelyd y car i faes parcio'r bistro. Mae Mike yn gadael y bwyty ac yn mynd i'r car ac yn cael ei ladd yn y ffrwydrad[25]. Canlyniad y weithred yw dechrau rhyfel rhwng teuluoedd Leone a Forelli.

Luigi Goterelli[golygu | golygu cod]

Luigi Goterelliyn yw rheolwr y clwb oedolion Sex Club 7. Mae'n defnyddio ei glwb fel lle i redeg ei fusnes puteindra. Ef yw pennaeth cyntaf #Claude yn Liberty City, ac mae'n rhoi iddo swyddi diflas megis gyrru ei ferched o gwmpas a mynd ar drywydd mân droseddwyr sy'n ymyrryd â'i weithredoedd[26] . Llesiwyd Luigi Goterelli gan Joe Pantoliano.[4]

Kenji Kasen[golygu | golygu cod]

Mae Kenji Kasen (Siapaneaidd: 加 瀬 健 治, Kasen Kenji) yn gyd-arweinydd y Yakuza, gang troseddol a'i gwreiddiau yn Japan. Mae'n frawd i Asuka Kasen. Mae Kenji yn cadw casino yn ar Ynys Staunton lle mae'n rhoi tasgau. I Claude. Mae'n cael ei ladd gan Claude ar orchymyn Donald Love mewn ymdrech i leihau pris tir datblygu trwy greu rhyfel gang rhwng Yakuza a'r Cartel[27] . Les Mau sy'n rhoi llais i'r cymeriad.[4]

Joey Leone[golygu | golygu cod]

Joseph Leone yw mab Salvatore Leone Don syndicâd maffia Teulu Leone. Mae'n nodweddiadol am ei ddiffyg uchelgais. Mae Joey yn gweithio fel peiriannydd mewn garej sy'n gwneud gwaith troseddol yn Portland. Mewn golygfeydd cyflwyno tasgau, gwelir ef yn gyson yn adfer bygi twyni, ac yn treulio amser gyda'i hoff butain, Misty. Mae tasgau Joey ar gyfer #Claude yn cynnwys lladrad, llofruddiaeth a gwaredu corff. Yn y broses, mae Joey yn cyflwyno caporegime y teulu, Toni Cipriani i Claude, gan ganiatáu i Claude berfformio tasgau pellach ar gyfer teulu Leone. Llefarwyd Joey Leone gan Michael Rapaport.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Scheeden, Jesse (28 Ebrill 2008). "Grand Theft Auto: Favorite Badasses". IGN. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
  2. "Liberty Tree: "Have You Seen This Woman?"". Official Grand Theft Auto III website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-13. Cyrchwyd July 26, 2006.
  3. Catalina: "Sorry babe. I'm an ambitious girl. And you, you're just small time." (Ffilm agoriadol y gêm Grand Theft Auto III.)
  4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 "Full Grand Theft Auto III credits". Internet Movie Database. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2018.
  5. "8-Ball". GTA Fandom. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
  6. "Liberty Tree: "Another Punch in the Gut for Organized Crime"". Official Grand Theft Auto III website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-18. Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  7. 7.0 7.1 "Liberty Tree: "Elderly Asian Man Held After Failing to Satisfy Immigration"". Official Grand Theft Auto III website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-18. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2006.
  8. GTA Grand Theft Wiki - Toni Cipirani adalwyd 9 Mehefin 2018
  9. Adelstein, Jake (16 Rhagfyr 2015). "The yakuza: Inside Japan's murky criminal underworld". CNN. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018.
  10. Liana Pai ar IMDb adalwyd 16 Gorffennaf 2018
  11. "Salvatore Leone". Giant Bomb. 19 Mehefin 2018.
  12. "Salvatore Leone". gta.wikia. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
  13. Tudalen Love Media ar wefan GTA III adalwyd 10 Mehefin 2018
  14. GTA Forums Is Donald Love a parody of Trump? adalwyd 10 Mehefin 2018
  15. Kyle MacLachlan ar IMDb adalwyd 10 Mehefin, 2018
  16. 16.0 16.1 Machowski: "That scumbag McAffrey, he took more bribes than anyone! He thinks that he's gonna get an honorable discharge if he turns state's evidence. He just squealed!" (Ffilm cyflwyno'r dasg "Silence the Sneak", Grand Theft Auto III.)
  17. Fandom - Phil casidy adalwyd 22 Gorffennaf 2018
  18. "Ma Cipriani". GTA Fandom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-16. Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  19. "Staunton Island - King Courtney". IGN. 2 Chwefror 2014. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2018.
  20. "Walter Mudu ar IMDb". IMDb. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2018.
  21. Fandom-Leon McAffrey adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  22. Ron Orbach ar IMDb adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  23. VOICE OF LEON MCAFFREY adalwyd 20 Gorffennaf 2018
  24. Marty Chonks: "I've agreed to see [Claude]...he thinks I'm gonna pay him off...but my guess is...Liberty's dogs are gonna get yet another flavor this month." (Clip cyflwyno "Her Lover", Grand Theft Auto III.)
  25. Grand Theft Auto II tasg Mike Lips Last Lunch adalwyd 22 Gorffennaf 2018
  26. Giant bomb - Luigi Goterelli adalwyd 22 Gorffennaf 2018
  27. Grandtheftwiki – Kenji Kasen adalwyd 22 Gorffennaf 2018