Ma Cipriani

Oddi ar Wicipedia
cymeriad Grand Theft Auto
Bwyty Ma Cipriani
Ymddangosiad cyntaf"Snappy Dresser"
Ymddangosiad olaf"Making Toni"
Crewyd ganRockstar
LlaisSondra James
GeniFflorens, Yr Eidal
Rhywbenyw
DinasyddiaethUDABaner UDA EidalBaner Yr Eidal
GwaithPerchennog Bwyty

Mae Ma Cipriani yn gymeriad mewn dwy o'r gemau fideo yn y gyfres Grand Theft Auto. Mae hi'n ymddangos yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories (a osodwyd ym 1998) ac yn Grand Theft Auto III (a osodwyd yn 2001). Mae Ma yn gymeriad llais yn unig, nid oes delwedd ohoni yn ymddangos yn y naill gêm na'r llall, ond clywir ei llais yn y ddwy. Mae llais y cymeriad yn cael ei ddarparu gan yr actor Sondra James[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Ma yn wraig weddw ac yn fam Antonio (Toni) Cipriani. Mae hi'n berchen ar fwyty Momma's Restaurante yn ardal Saint Mark's, Portland, Liberty City, sydd hefyd yn gartref iddi[2].

Mae Ma Cipriani yn dod o Fflorens[3] yn wreiddiol ac roedd ei diweddar ŵr (sy'n ddienw yn y gemau) yn dod o Sisili. Does dim gwybodaeth ar gael i ddweud pa bryd ymfudodd Ma a Mr Cipriani i'r Unol Daleithiau o'r Eidal, ond roedd cyn 1968, adeg geni eu mab.

Ma yn GTA:Vice City Stories[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Ma Cipriani a'i gŵr redeg eu bwyty ym 1968, gyda Ma yn gweithio yn y gegin, yn cynhyrchu campwaith ar ôl campwaith' yn ôl y gohebydd Papur Newydd Liberty City the Liberty Tree, Nicholas Morris[4]. Tra hefyd yn magu eu mab Toni. Bu farw ei gŵr rywbryd cyn 1998. Cafodd hyn effaith fawr arni gan ei bod hi'n cyfeirio ato gyda pharch enfawr wrth ei gymharu ef â'i mab. Mae'n cwyno bod Toni yn rhy ferchetaidd ac ni fydd byth yn gystal dyn a'i dad.[5]

Ym 1994, wrth iddi barhau i redeg y bwyty, collodd gysylltiad â Toni a oedd yn gorfod ffoi o'r ddinas ar ôl lladd aelod blaenllaw o un o deuluoedd maffia eraill y ddinas ar gais Salvatore Leone, Don (pennaeth) Teulu Maffia Leone[6]. Nid yw Toni yn cysylltu â hi yn ystod ei alltudiaeth hyd iddo ddychwelyd i'r ddinas ym 1998. Hyd yn oed wedi dychwelyd, nid yw'n cysylltu â'i mam yn syth gan iddo ddechrau gweithio i Vincenzo Cilli dan orchymyn gan Salvatore Leone. Wrth iddo ail gysylltu â  Ma, mae hi'n dechrau ei gymharu â dynion eraill yn y ddinas fel Cilli a Giovanni Casa, gan honni nad yw'n ei thrin hi cystal ag y maent hwy'n trin eu mamau. Mae Toni yn gorfod gwneud cyfres o dasgau i geisio profi i Ma ei fod o'n well na dynion eraill y ddinas ac yn gystal aelod o'r maffia ag oedd ei dad. Methiant yw pob ymgais i blesio Ma. Mae hi'n rhoi Hit ar Toni, yn cyflogi gang i'w saethu; fel y bydd, o leiaf, yn farw fel dyn.

Yn y dasg Making Toni mae Toni yn cael ei urddo yn Uomo compiuto (Dyn o Anrhydedd; Saesneg: Made Man)[7]; sydd yn rhoi statws o fri iddo yn y syndicâd troseddol. Mae hyn yn plesio Ma ac mae hi'n gorchymyn i'w llofruddwyr i sefyll i lawr.

Ma yn GTA III[golygu | golygu cod]

Erbyn 2001 (amser gosod GTA III) mae Toni wedi mynd yn ôl at y bwyty i fyw gyda'i fam. Mae Ma yn parhau i gwyno am Toni a'i ffordd o fyw ac i'w sarhau am beidio bod hanner y dyn oedd ei dad. Mae o'n cael cymaint o lond bol fel ei bod yn ffonio'r orsaf radio trafod leol, Chatterbox FM, i gwyno am nagio cyson ei fam. Mae Ma yn ymddangos mewn dwy dasg lle mae hi'n cyfeirio Claude at ddau nodyn a adawyd iddo gan Toni er mwyn ei gyfarwyddo i gyflawni tasgau.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Grand Theft Auto: Liberty City Stories (2005 Video Game) Sondra James: Ma Cipriani". IMBd. Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  2. 2.0 2.1 "Ma Cipriani". GTA Fandom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-16. Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.
  3. Rockstar North (24 Hydref 2005). Grand Theft Auto: Liberty City Stories. PlayStation 2. Rockstar Games. Mission: " Salvatore's Called a Meeting "
    Salvatore Leone: "Toni! How's your Mamma? She's a great woman you know "Strong Firenze""
    Ystyr Firenze yw ub o Florence
  4. "Liberty Tree "Toni Cipriani: Loves His Momma's Sauce "". 1 Gorffennaf 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-10. Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  5. Grand Theft Wiki. "Ma Cipriani". Cyrchwyd 26 Mehefin 2018.
  6. IMDB Grand Theft Auto Liberty city stories adalwyd 9 Mehefin 2018
  7. Adolygiad o'r gêm ar gamespot