Bryn y Briallu
Mae Bryn y Briallu (Saesneg: Primrose Hill) yn fryn 256 troedfedd ar ochr ogleddol Regent's Park yng Nghanol Llundain, Lloegr, ble ceir golygfa wych dros Llundain. Hwn yw'r Bryn agosaf i ardal Soho, cartref Iolo Morganwg gynt ac i'w gyfoeswr William Blake. Yma ym 1792 y cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd gyntaf Iolo Morganwg. Dewiswyd Alban Hefin neu Hirddydd Haf sef canol haf ar gyfer seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o'i boced. Wedyn daeth Derwyddon Seisnig i'r lle a dechrau'r 'Primrose Hill Druids', y grwp neo-baganaidd sy'n dal i fynychu Côr y Cewri ar Alban Hefin, ond yn dychwelyd i Fryn y Briallu ym mis Medi bob blwyddyn ar gyfer y cyhydnos.
Adferwyd y briallu i'r bryn yn 2008, ac anrhydeddwyd Iolo Morganwg gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain ym Mehefin 2009; gosodwyd carreg yno a chynhalwyd seremoni'r Orsedd i gofio diwrnod sefydlu'r Orsedd. Cadeirwyd y seremoni gan Huw Edwards.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Mae gan y bryn ei le yn hanes Gorsedd y Beirdd. Cynhaliwyd gorsedd gyntaf o'r Beirdd Iolo Morganwg yma ar 21 Mehefin 1792, ar Alban Hefin sef canol haf. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o boced Iolo. Yma y clywyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus yr ymadrodd "yn llygad haul a wyneb goleuni" ac yma hefyd y gwelwyd gyntaf roi'r cleddyf noeth yn y wain fel arwydd o heddwch. Cynhaliwyd ail seremoni gan Iolo ar 22 Medi yn yr un flwyddyn. Gwgai'r awdurdodau at y gweithgareddau hyn. Roedd Iolo yn heddychwr a gweriniaethwr ac yn un o'r rhai a safodd yn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel â Ffrainc ac o blaid y Chwyldro Ffrengig. Mewn canlyniad, gwaharddwyd Iolo Morganwg rhag cynnal rhagor o'i orseddau ar Fryn y Briallu.[1]
Fel Regent's Park i lawr y bryn, mae Bryn y Briallu yn rhan o'r Parciau Brenhinol ers 1841. Mae'r maesdref gerllaw yn dyddio o'r cyfnod Fictoraidd. Mae Bryn y Briallu yn un o ardaloedd ffasiynol Llundain erbyn heddiw ond mae awyrgylch 'pentref dinesig' yn parhau. Ym mis Hydref 1678 llofruddiwyd Edmund Berry Godfrey ar y bryn.
Mae Bryn y Briallu yn ymddangos mewn cerdd gan William Blake:
- "...The fields from Islington to Marylebone
- To Primrose Hill and Saint John's Wood
- Were builded over with pillars of gold
- And there Jerusalem's pillars stood..."
Dringodd Blake i ben Bryn y Briallu a honnodd iddo gael sgwrs gydag 'Ysbryd yr Haul". Credodd Blake y byddai un o bileri'r Teml Caersalem Newydd yn sefyll ar y Bryn.
Llai na hanner milltir i ffwrdd mae Poland Street, Soho, lle roedd Iolo Morgannwg a Blake yn byw a chymdeithasu ar un adeg.
Bryn y Briallu - Llên, Teledu, Ffilm a Chân [golygu]
- Mae'r cymeriad enwog Martha Jones yn cyrraedd y Ddaear yna hefyd yn y rhaglen Doctor Who yn y bennod, The Sound of Drums. Cymro wrth gwrs yw'r awdur Russell T. Davies
- Mae Billy Bragg yn sôn am "seeing Angels up on Primrose Hill' yn ei gân 'Upfield' "I dreamed I saw a tree full of angels, up on Primrose Hill". Cyfaddefodd iddo fod o dan dylanwad William Blake.
- Primrose Hill, enw nofel gan Helen Falconer. Faber a Faber, Llundain, 1999.
- Yn llyfr H. G. Wells' The War of the Worlds, dyma wersyll y Marsianaid.
- Yn ffilm Dodie SmithThe Hundred and One Dalmatians, mae'r teulu Dearly yn byw yn lleol, Regent's Park's Outer Circle, a'r Bryn yn gyfleus iawn i'r ci Pongo.
- Cenir am Fryn y Briallu mewn cân Blur sef For Tomorrow. Peintwyd y geiriau "and the view's so nice", o'r gân ar y llwybr yn arwain i ben Bryn y Briallu
- Crybwyllir Bryn y Briallu yn y sengl gan Appleton, Everything Eventually, a'r llinell "Let's go fly a kite on Primrose Hill". Ffilmiwyd ar y Bryn gan lawer o fandiau a ffilmiau diweddar e.e. Oasis, Red Hot Chili Peppers a Madness
Trigolion Enwog [golygu]
Cysylltir nifer o enwogion â'r Bryn, gan gynnwys:
- Adam Ant (g, Stuart Leslie Goddard), canwr, cyfansoddwr ac actor
- Alan Bennett, awdur
- Chris Moyles, DJ Radio 1
- David Miliband, Ysgrifennydd Tramor
- Ewan McGregor, actor
- Friedrich Engels, Athronydd gwleidyddol a chydawdur Maniffesto'r Comiwnyddion.
- Helena Bonham Carter, actores
- Jamie a 'Jools' Oliver, cogydd a'i wraig
- Joan Bakewell, darlledwr a newyddiadurwr
- Jon Snow, Darlledwr newyddion
- Jude Law, actor
- Rachel Weisz, actores
- Simon Callow, actor
Cysylltiad â Chymru [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968), tud. 30.
Gweler hefyd [golygu]
Dolenau allanol [golygu]
- (Saesneg) "Primrose Hill - An Urban Village Examined by Alistair Barr, Architect & Resident" (Barr Gazetas)
- (Saesneg) "The Primrose Hill Farmers' markets"
- (Saesneg) Gwefan leol Bryn y Briallu
- (Saesneg) "Primrose Hill and Regent's Park in Literature and Music", llyfryddiaeth
- (Saesneg) erthygl - "the Blur lyrics on Primrose Hill"